Pob math o doriadau wedi eu gludo ar 'Register of the North Wales Choral Union'.
Llawer iawn o luniau actorion y dydd, a mwy fyth o'r gwawd-luniau a ymddangosai yn y cyfnodolion poblogaidd.
Tipyn o ddyfyniadau Cymraeg wedi eu torri o'r papurau newydd; ambell ddarn pur werthfawr, fel rhestr Glan Menai o'r Beirdd Cadeiriol (146) ac atodiad iddi gan un arall (316).
Amberll ddarn gwreiddiol wedi ei bastio e.e.
- Bedd y Morwr yn llaw Robin Ddu Eryri (262)
- Cyfieithiad o 'Jock o Hazeldean' (Scott) gan J. Hughes o'r Vaynol National School, 14 Awsy 1865 mewn llaw debyg i un Ceiriog (279)
- Cyfieithiad gan Dr E.H. Ellis, brawd Grace Ellis (282)
- Darn o farddoniaeth gan y Parch. Ebenezer Davies, Llannerch-y-medd (316)
Prif em y llyfr yw gwaith Isalaw yn copio allan, yn ei law gain gelfydd, a chyda pob math o amrywiadau artistig yng nghyflead y prif-lythrennau - Awdl Tudno ar 'Bryferthwch', buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1875 (356-364).