Ganwyd Benjamin Humphreys yn Nhal-y-bont, Ceredigion; aeth i Goleg y Bedyddwyr yn Llangollen (tra yn y dref honno daeth i gyswllt pur agos a Thaliesin o Eifion, bardd y "Gadair Ddu"; oddi yno i fugeilio Bedyddwyr Cymreig Manchester; symudodd o Fanceinion i fod yn weinidog Bedyddwyr y Felinfoel, un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Prin y gellir dweud ei fod yn rhestr y prif bergethwyr - yr oedd ei lais yn rhy galed a chras. Ei gryfder oedd ei allu a'i afiaeth i amddiffyn mewn Cymraeg cryf a chyda rhesymeg glos, arferion manylaf y Bedyddwyr Neilltuol; gwnaeth hyn gydag arddeliad yn y "Genhinen", "Seren Cymru" a'r "South Wales Daily News", hyd nes cyrraedd ei uchafbwynt yn ei anerchiad o'r Gadair yn Undeb Llangefni, Awst 1926.
Yr oedd yn dipyn o hanesydd - ef ysgrifennod "Hanes Bedyddwyr Felinfoel", a gyhoeddwyd yn 1909; ac ymhyfrydai gasglu hen lyfrau a llawysgrifau a marc y Bedyddwyr arnynt; o'i gasgliad ef y daeth i'r Llyfrgell hon (yn amser Shankland) lyfrynnau Richards o Lynn, yn y ddadl fawr gyda Gomer; o'i gasgliad ef hefyd yn 1934 y daeth eraill e.e., cyfrol o amryw a fu unwaith ym meddiant Enoch Francis, a'r llyfr a gyhoeddodd Abel Morgan yn Philadelphia (1750) i amddiffyn Bedydd Troch.
Yn ei feddiant am flynyddoedd oedd llyfr cwrdd chwarter Bedyddwyr De Caerfyrddin (BMSS/1511). Hawdd deall iddo rywfodd ddod o hyd i un o lyfrau pregethau John Jones o Ferthyr (BMSS/1513) - o Dalybont y deuai Jones ac o Dalybont y deuai Humphreys.