Buan iawn y gwelir oddi wrth y llyfrau cownt pa mor eang oedd ei faes meddyga : ei arfer oedd rhannu pobl ei ofal o dan enwau ardaloedd, a rhoddi'r gwaith o gasglu'r dyledion "in commission". Pobl anllythrennog oedd y rhain weithiau, gyda sgript fras garbwl, a hoff iawn o roddi atebion y dyledogion yn y person cyntaf e.e. "deuaf a nhw i ffair Pwllheli".
Diddorol iawn fyddai dosbarthu'r atebion - rhai wedi marw, rhai wedi symud, amryw wedi mynd dros y mor, ambell un "wedi talu", llawer iawn yn addaw dod i ffair Pwllheli neu ffair Gwyl Ifan Cricieth, llawer eraill "very soon". Newydd fynd i'r capel (noson waith) oedd ateb parod rhai cynrychiolwyr hen gleifion - doniol yw meddwl am bobl dda yn llechu yn y seiat thag talu dyled! "B.D." yn ymddangos yn aml, sef "Bad Debt".