Llythyrau oddi wrth Bob Owen, Croesor

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1999
  • Dates of Creation
    • 1934-1936
  • Physical Description
    • 27 llythyr

Scope and Content

Ar y cyfan, cryfach geiriau nag arfer, yn enwedig rhif 25, llythyr a gyfansoddwyd drannoeth miri mawr Pwllheli pan fethodd arweinwyr y Blaid Genedlaethol gael cyfle priodol i brotestio yn erbyn yr Ysgol Fomio. Gwawd a gogan aml ar draul anwybodaeth Llyfgellydd Coleg Bangor a mawrion llyfryddol o'i fath. Go "giami" o ran iechyd yn 1934.

Sylwer arno yn cael hwyl efo Mr Lloyd George, ym Mhwyllgor y Records yn Nolgellau (8) a hwyl ryfeddol yn ceisio codi gwrychyn y Llyfrgellydd gyda llyfr festri plwyf Llandwrog, ssef BMSS/1915 (18-21); gresynnu hefyd iddo yntau, er ei graffed golli Cronicl Llenyddol Pentrefoelas, BMSS/1575-1580. Llawer o'r llythyrau, un ohonynt yn ddeuddeg tudalen, yn delio a Morafiaid Drwsycoed a'u tras (10-14); achoswyd hwy gan hynt chwilota Mr. R.T. Jenkins i'w hanes yng ngogledd Cymru. Ynddynt gwelir Bob yn ei lawn afiaith fel digroenwr hen gofnodion.