Traethodau o waith Richard Jones yn bennaf
Papurau Richard Jones, Isallt, Caernarfon
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/1614-1629
- Dates of Creation
- 1920au
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Bu Richard Jones yn gweithio fel postfeistr ym Mhorthmadog, Machynlleth, Ormskirk ac Aberystwyth. Torrodd ei iechyd ac yn 1926 dychwelodd i'w hen fro yng Nghaernarfon lle by farw yn 76 mlwydd oed yn Chwefror 1935.
Roedd yn llenor pur ddiwylliedig. Bu'n adroddwr gwych yn ei ddydd ac yn feirniad cydnabyddedig; dilynai'r Eisteddfod Genedlaethol yn ffyddlon nodedig, am flynyddau fel cynrychiolydd "Y Brython"; ef hefyd oedd ysgrifenydd Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr er 1926. Cystadleuodd gryn dipyn mewn Eisteddfodau heb eithrio'r Genedlaethol : yn Eisteddfod Pwllheli (1925) ar draethawd ar Thomas Roberts, Llwynhudol, rhannwyd y wobr rhyngddo ef a Bob Owen; bu ymron iddo fyned a'r wobr am "Hanes Crynwyr Cymreig" yn Yr Wyddgrug (1923) - ymddangosoddd hwn yn llyfr (Abermaw, 1931) ar ol iddo ddod allan yn gyfres o ysgrifau yn "Seren Gomer". Cafodd wobrau pwysig mewn Eisteddfodau lleol.
Bedyddiwr ydoedd ac yn aelod o bwyllgorau dirif ar hyd y blynyddau.
Yr oedd yn aelod blaenllaw o Bwyllgor Llen Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1935) o'r Pwyllgor Drama, ac o Bwyllgor yr Orsedd. Fel y dywed ar lan ei fedd "Yr oedd R.J. yn ddyn da drwyddo".
Other Finding Aids
Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssrjcp