Mae'r llythyrau yn llawn o ymadroddion Bob Owen, ei ddogmateiddiwch pendant , ei wybodaeth ddihafal o lyfrau a chyfnodolion Cymreig ac o'i egni dihysbydd.
1. Cais Bob Owen at Gyngor Addysg Meirion am fod yn llyfrgellydd y Sir (1925)
2. Agenda Cwrdd plwyf yn Llanfrothen (1927)
3. Apel i gael ei ddewis ar y Cyngor Dosbarth yn 1928
4-8. Ymgais cywydda Bob Owen at ei gyfaill J.W. Jones o Danygrisiau
9. Copi o lythyr y sgorpionnaidd at Garneddog (yr achlysur oedd i Bob ofyn i Carn. gyhoeddi un o odfeuon Tom Nefyn, ac i hwnnw, tra'n arwain cwrdd llenyddol yn Nanmor, wneud yn fach ac ysgoewedd o'r apel ac o'r pregethwr)
10. Cerdyn post doniol sy'n eco o'r ffrae fawr ynghylch Mari Jones a'i Beibl a'r cerdded i'r Bala - Bob Owen wedi mynd yn bur bell i lareiddio ergyd a neges y stori honno, a thynnu y saint mwyaf ceidwadol yn glwstwr i'w ben.
11-73. Llythyrau wedi'u hysgrifennu at J.W. Jones, Tanygrisiau (ac eithrio 11-13 a 24, 30). Weithiau daw geiriau pur gryf a hagr, bryd arall ddychan doniol; ambell wingiad o dan feirniadaeth; a gormod parodrwydd i adeiladu tablau achau. Gwyr y wlad bwygilydd am ei ragfarn yn erbyn JOhn Elias, a dengys y llythyrau hyn ei edmygedd dirfawr o'r Dr O.O. Roberts o Fangor. Llawer iawn ar bolitics, ar breneiddiwch ac anystwythder y gwahanol bleidiau yn wyneb amgylchiadau newyddion y cyfnod; ar lygredd cymdeithas a diffygion y drefn addysg. Hoff ganddo, yn awr ac yn y man, dreio ei law fel bardd.
Ond nerth mawr y gyfres lythyrau yw ei ddwfn ymwybod ym myd Llen; yn enwedig darllenner ei lyfryddiaeth ar Ddafydd Ddu Eryri, ei restr hir o awgrymiadau ar gyfer testunau Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931a'r list dra diddorol o destunau ar gyfer traethodau M.A. Prifysgol Cymru. Wedyn, sylwer arno yn tramwyo bro a bryn yn ei amryfal ymchwiliadau. A'r troeon doniol a thrwstan ynghyd : ymweled a llyfrgell Llew Tegid heb ddweud gair wrth Lyfrgellydd Bangor; galw i weled llyfrau gyda gweddw yn rhy fuan wedi marw ei gwr; rhamant aneglur y "bocs sielatin"; cael ei droi allan o reithordy Llanarmon yn Eifionydd am fod braidd yn rhy hy; hanes y daith yn y De yn nechrau 1934; ei ddychan deifiol i'r Llyfrgellydd ac R.T. Jenkins am fod y ddau yn gwybod dim am y bardd Tudur Llwyd o Lanuwchllyn