Roedd R.H. Thomas yn fab i Hugh Thomas y teiliwr; ganwyd yn 1859 a bu farw rywbryd yn 1934. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frytanaidd Pentraeth a theilwra y bu yntau gyda'i dad, gan droi i gasglu arian yswiriant o gwmpas 1920.
Ar un adeg bu'n gyfeillgar iawn ag Ap Ffarmwr ac yn selog dros grwsâd hwnnw ymhlith gweision fferm Môn.
Yr oedd yn frawd i Benjamin Thomas, Siop Pentraeth ac i William Thomas, Llythyrdy Aberffraw.
Yr oedd R.H. Thomas yn enghraifft nodedig ragorol o ddiwylliant gwlad. Efallai mai adeiladau tablau achau oedd ei brif ddiddordeb. Holai a chwiliai'n ddibaid yn eu cylch. Yr oedd yn dipyn o law ar enwau lleoedd a llên gwerin er nad ef anfonodd y traethawd ar lên gwerin Môn i Eisteddfod Llannerch-y-medd yn 1908.
Yr oedd yn llawn afiaith gyda chyfarfodydd llenyddol o bob math; bu'n ysgrifennydd i amryw ohonynt; paratodd beth wmbredd o anerchiadau iddynt, rhyddiaith a chân. Rhigymllyd oedd ei farddoniaeth, ar y cyfan.
Ymdreuliai lawer gyda hanes crefydd, yn enwedig hanes tŵf M.C. yn nosbarth Dwyrain Môn.