Llyfr nodiadau Dr H. Cefni Parry, gweinidog i'r Bedyddwyr gyda'r teitl "Tamiedlyfr Cefni"

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1520
  • Dates of Creation
    • 19eg ganrif

Scope and Content

Ceir yma 8 o awdlau, 18 cywydd, 13 o ganeuon coffa, 57 o resi englynion, 3 cerdd Saesneg, 1 fugeilgerdd, heb son am 4 o feirniadaethau ac ysgrifau dadleugar i amddiffyn ei hun neu ymosod ar eraill, neu'r ddau.

Y mae i'r "tameidlyfr" 143 o dudalennau gyda rhai ychwanegiadau rhyddion. Toriadau o newyddiaduron Americannaidd Cymreig yw'r corff mawr.

Administrative / Biographical History

Bu H. Cefni Parry (1826-1895) yn weinidog yng Nghymru ac yn yr America. Yr oedd yn fardd pur dda, nodweddiadol hollol o ddull ysgrifennu oes Victoria. Cyfansoddodd beth wmbredd o bob math o farddoniaeth.