A (td. 1-89)
Ymddengys fod William Hughes yn gefnder i'r Parch. William Roberts, Amlwch. Cofnodi dyddiad claddu mam y Parch. William Roberts a'i hoed yn marw, sef 91 mlynedd. Cyfeiria nefyd (10) at farw dwy ferch William Roberts yn 1838.
Cyfeiriad arall (79) at hen fodryb iddo, Hannah Prichard, yn marw yn Nhachwedd 1846 yn 92 oed. Cyfeiriad arall at frawd-yng-nghyfraith iddo, John Evans, Glangors, Llanfaelog.
Aiff rhan dda o'r dyddiadau i gofnodi prynu a gwerthu lloi a gwartheg, ac i ddweud pa bryd y dechreuwyd ar y cynhaeafau, a pha bryd y gorffenwyd. Sonia am y gwartheg wrth eu henwau a rhai diddorol ydynt; ond nid yw'n eglur iawn paham y galwyd un ohonynt "Bangor". Un arall hollol yw "Bengron".
Daw enwau rhai o brif ffermwyr Mon i'r llyfr ac amryw o'r gwyr bonheddig. Weithiau rhydd fanion o wybodaeth anodd ei gael yn unlle arall e.e.y cyfeiriad at deulu Cornelius Prichard o Laneilian, priodasau ei blant a'i wyrion; y tri pharti o Fon a briododd yn Lerpwl (20 Ebrill 1841), gan gynnwys Robert Pritchard o Lwydiarth Esgob a'i wraig; cofnod marw Mrs Meyrick, Cefn Coch, Llanfechell (25).
Rhydd yn awr ac yn y man enwau capteiniaid yng ngwaith Mynydd Parys nad ydynt yn wybyddus i bawb fel "Timberleck" at t. 23.
Amryw gyfeiriadau at ddamweiniau yn y gwaith hwnnw (18,37).
Geilw un gwr y prynodd lo bychan ganddo wrth enw go ryfedd sef "Richard Jones Dwy wraig" (46).
Sonniw ddwywaith am Gwrdd Misol Capel Newydd (7 Awst 1838) a'r Gorslwyd (21 Gorffennaf 1846).
Geiriau diddorol am rai crefyddwyr pwysig : marw gweddw John Evans, y blaenor yn Lletroed; a chladdu Richard Williams, un o flaenoriaid cynharaf y Gorslwyd, y dyn blaenaf yno am 60 mlynedd ar 17 Ionawr 1840.
Diddorol iawn yw ei gyfeiriadau at y Bedyddwyr, at fedyddio deg o bersonau yn Llyn y Mines (34), Mynydd Parys ar 4 Gorffennaf 1841, gan y Parchedigion Thomas Evans a Richard Owen ("plenty of clane water in a large pool"), ac at Gymanfa yn Amlwch ar 28-29 Mehefin 1843 (50).
Amryw gofnodion eraill tra diddorol - ysbleddach yn Amlwch amser coroni'r Frenhines Victoria, ymweliadau Ardalydd Mon ac Arglwydd Dinorben a'r lle, enwau teuluoedd a fudai i'r America (10, 15), enwau'r ysgolion yr anfonai ei blant iddynt : y merched at Miss Holmes i Fiwmares, y bechgyn un ai at Forsyth, Llannerch-y-medd, neu at Robert Thomas i fiwmares eto (6, 17, 52, 68, 81)
Mynnai ysgrifennu yn Saesneg, ond Sais pur anllythrennog ydoedd
B. (td. 1-43)
Rhestri taliadau sydd yma i'w weithwyr a'i weinidiogion; taliadau arbennig amser cynhaeaf etc. 1839-1847