Llyfr sgrap Robert Roberts, Ystumllyn, Cricieth / Precedent book of Humphrey Jones

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1217
  • Dates of Creation
    • 18fed ganrif - 19eg ganrif

Scope and Content

Ar y clawr, yn llaw y rhoddwr, G.H. Williams, Y Wendon, Cricieth ceir y geiriau : "Ystumllyn - Hen ystad y Wynniaid - bu yr olaf farw yn 1790 - gwerthwyd hi i Rowland Jones, Broomhall yn 1837, gan Humphrey Jones, cyfreithiwr, Machynlleth, yr hwn a arosai ar brydiau yma, a hen lyfr iddo ef yw hwn. Cafwyd gan W.R. Metcalfe, yn awr o Gaerdyw, o lofft yr ystabl. 1928"

Nid oes fawr ddadl nad Humphrey Jones oedd perchennog y llyfr hwn unwaith - llyfr precedents a ffurfiau cyfreithiol ydyw.

Mae'n ymddangos fod Robert Roberts wedi bod yn ysgrifennu ar dudalennau gwag hen lyfr Humphrey Jones, y cyfreithiwr. Mae'n cynnwys cofnodion bywyd fferm go fawr - cyffuriau at wella anhwylder ar anifeiliaid, rheolau pwyso, gweithwyr yn dod at eu gwaith yn 1842, trefn y "board and lodgings" yn 1838, taliadau am godi tai newyddion yn Ystumllyn, 1838-1840, codi gwaliau rhag i'r mor ruthro drosodd yn Nhanrhiwiau.

Weithiau deuir ar draws manylion am ffermydd, a swm ei degwm, ym mhlwyfi Cricieth a Threflys; cowntiau plwyf Treflys yn 1838 a gwybodaeth am ffermydd yn ardaloedd Bottwnog a Llandegwning.

Daw digon o brofion bod Robert Roberts yn wr o farn ac yn barchus gan ei gymdogion - mapio rhai o diroedd y Traeth Mawr, drafftio anerchiadau, ysgrifennu ar ran y tlawd. Un o'r pethau mwyaf diddorol ganddo yw hanes ystranciau "Mari, Nyth y Golomen" yn festri plwyf Cricieth, hi yn bygwth gwneud am fywyd un o'r swyddogion "but was luckily prevented from accomplishing her aqful attempt by the timely interference of one of the ratepayers".

Peth arall donial yw draft o lythyr caru.

Nid oes ddadl ychwaith nad oedd yn gryn dipyn o lenor - awyrgylch Cefnmeusydd, mae'n debyg. Gwel ei gopi o reolau barddoniaeth Gymraeg, ei ddyfyniadau hirion o ysgrifenwyr Seisnig, ac ambell ymgais i ganu'n Saesneg.

At t. 66 darllenir "yr englynion a ddigwyddasant i mi pan yn darllen gwaith y diweddar Dewi Wyn ar Bont Porthaethwy" a cheir rhes o englynion ar farw ei chwaer, Laura yn 1841.

Ychydig iawn o gyfeiriadau teuluol, ac eithrio draft o lythyr at ei frawd; R.R. yn ateb llythyr a gafodd o Philadelphia (1838) - rhydd i lawr fanylion pwysig a diddorol am Robert Roberts, William Williams ac Ellis Owen (Cymry o dueddau Cricieth ac Ynyscynhaiarn a ymfudodd i'r America, y cyntaf tuw 1773). Ac onid James Spooner (Gestiana), y peiriannyd, a dorrodd ei enw ei hun ar draws tt. A.72-74.

Administrative / Biographical History

Tenant i sgweier Broom Hall oedd Robert Roberts.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssyst