Dosbarthwyd y llythyrau yn ol y cyfeiriad yr oedd Deudraeth yn 'lodgio' ynddo ar y pryd, ar wahan i ychydig ohonynt. Gyda'r bensel blwm yr ysgrifenna'n aml iawn, a hynny ar neu ar gefn rhyw lafnau mawr o bapur a gai yn y swyddfa gotwm y gweithiai ynddi. Anhebyg ryfeddol i ffordd araf, ofalus, gymen, Ioan Brothen. Nid oes ddadl am ei hen gyfeillgarwch cywir a J.W. Jones; nid oes ddadl ychwaith am filoedd cymwynasau J.W. iddo yntau.
Ar wahan i'r englynion sy'n britho ymron bob llythyr, y pethau mwyaf gwerthfawr yw ei atgofion doniol am yr hen fywyd y fu iddo yng Nghymur, y lein bach a'i swyddwyr (33,34,39 etc.); am bobl Ffestiniog, ei dywediadau a'i troion rhyfedd a chwithig (13-16, 37, 53, 63, 95), am y bandiau (76) a'r daith ddigalon ar hyd hen lwybrau'r Dduallt (105). Neilltuol o fyw yw y disgrifiad o Dr Roberts (Isallt), ac un neu ddau arall yn 28. Yn yr un llythyr y ceir y cefeiriad at Goronwy Owen yn Lerpwl.
Dywed bethau mawr wrth J.W. Jones am lenorion ein cyfnod ni, weithiau'n canmol, yn amlach lawer yn eu goganu a'i cribo : gweler ei farn am J.J.W. (31), Caerwyn (59), Isander (77), Pedrog (90), Meuryn (97), pur lawdrwm ar ffordd a syniadau Tom Nefyn (89). Byw iawn yw ei ddisgrifiad o Eisteddfod Lewis yn Lerpwl (30). Yn naturiol ddigon, ac yntau ar y Pwyllgor Llen, ceir llawer iawn am Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1929 (31, 36, 41, 46, 56, 57, 78). Deil syniadau go eithafol am bartiaeth beirniaid barddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol (93).