Yn cynnwys sylwadau diwinyddol a chopiau o gywyddau'r hen feirdd fel Robin Ddu, Dafydd Gorllech etc.
Ar td. 33, 42-7 fe welir cyfrifon yn llaw tad Ieuan Glan Geirionydd, Robert Evans. Efallai mai arian oedd yn dod i mewn am gyhoeddiadau oeddynt?
Ceir cyfeiriad at Robert Evans yn syrthio a thorri ei glun ar 21 Chwefror 1841 ac am farwolaeth gwraig Ieuan, 14 Mai 1847.
Ar yr ochr arall i'r llyfr, fe welir cyfrifon eraill (1833-1846)