Er fod amryw o'r tudalennau ar goll yn y gyfrol hon ceir yn y llyfr beth wmbredd o wybodaeth am y pethau a werthid mewn siop wlad yn y cyfnod hwn, eu prisiau ac enwau'r cwsmeriaid e.e. Robert Roberts, Ystumllyn (298-306); Ellis Owen, Cefn Meysydd (660, 699 etc.); Thomas Jones, Cefn Meysydd Ucha' (240-249); Eliseus Griffith, Brongadair, a llu eraill.
Gwelir enw'r pregethwr a'r bardd Emrys ar dudalen 652 a theulu Greaves y Wern (651, 703b, 709 etc.).
Daliai John Evans dŷ neu ddau a cheir llawer iawn o dderbynebau am rent y rheiny.
Nid oes ddadl am ei brysurdeb fel milfeddyg (470-5, 643-710). Gelwid am ei wasanaeth drwy'r wlad oddi amgylch ac ai weithiau cyn belled â Chaernarfon.
Ceir amryw gyfeiriadau at ei blant fel Elin Roberts a gafodd gryn £50 gan ei thad yn 1859 (345); Ann Jones, merch arall (231), "Sion Ieuanc" (773, 787); Evan ei fab (175); ac efallai bod y Robert Evans, gof a aeth i Awstralia (716) yn fab arall iddo.
Prawf tudalennau 225 a 717 fod yr ysfa i ymfudo i Awstralia [Australia] yn gryf yn y blynyddoedd 1855-1860.