Mae'n amlwg fod yr awdur yn Fethodist Calfinaidd ac yn aelod o'r Cwrdd Misol. Deil gyswllt agos a'r fasnach llongau e.e. son am ddadlwytho etc.
Ar y tudalennau chwith ceir nodiadau pur fanwl am y tywydd a hynny bob dydd. Ar y dde mae enwau pregethwyr M.C. Mon a ddeuai i Amlwch.
Cofnodir amryw ddigwyddiadau e.e. marw Mr Pryce, Cafnan ar 4 Ionawr 1875.
"Troedigaeth Ceulanydd" yw'r geiriau rhyfedd ar t. 35 ar gyfer 26 Mai 1876. [Roedd Ceulanydd yn weinidog y Bedyddwyr yn Amlwch ar y pryd ac wedi hynny bu'n fardd cadeiriol Eisteddod Genedlaethol Pontypridd (1892) ac awdur "Athrylith Ceiriog". Tystia'r dyddiadur iddo gael tipyn o anhwylder cordd ddechrau 1876]