Ganed y Parch. David Griffith yn Ty Cnap, Bontnewydd, Caernarfon ar 7fed o Fawrth 1841. Bu am dymor yn brentis athro yn Ysgol yr Eglwys, Bontnewydd, hyd nes iddo, ym Mawrth 1860, ddod yn aelod o'r North Wales Training College yng Nghaernarfon. Nid ymddengys iddo fod yn fwy nag ychydig fisoedd cyn cymeryd gofal ei hen ysgol yn y BOntnewydd a syud i Gapel Curig yn 1861.
Bu rhyw anghaffael technegol yn ei hanes oherwydd fel "uncertified" yr ymddengys ei enw ar gyfer Capel Curig yn adroddiad y Coleg am 1860 (td. 9).
Bu yng Nghapel Curig o 1861 hyd Fawrth 1875; yna bu am fis ym Mhontrobert, Maldwyn, yn ymberffeithio ar gyfer arholiad aelodi yng Ngholeg Llanbedr (o dan addysg rector Dr Lloyd James, a fu farw yn 1904). Llwyddodd a bu yn y Coleg hwnnw fel "biennial" hyd Mehefin 1877.
O 1877 hyd Wanwyn 1883 bu yn gurad Eglwys Fair, Aberdar. Am y gweddill o'r flwyddyn 1883, gwasanaethodd fel curad y Gaerwen ym Môn.
Tebyg iddo fod am chwe mis yn Amlwch yn 1884.
O Dachwedd 1884 hyd Rhagfyr 1893 yn gurad Pentraeth a Llanbedrgoch, Môn.
Yn 1895 bu am dymor anniddig yn gwasanaethu o dan y bardd a'r offeiriad Berw yn y Waenfawr.
Gwyddom i sicrwydd mai o Ionawr 18 - Chwefror 8, 1896 y bu yn Nhrefdraeth, Môn, yn gurad; o Chwefror i Fehefin yr un flwyddyn yng Nghwmafan, o Fehefin i Awst yn Hirwaun - curad fyth.
Nid oes wybodaeth sicr am ei rawd yn 1896-1898. O 1899 i 1902 bu yn Nhrefdraeth yr eilwaith; hefyd yn Hirwaun yr eildro (rywbryd yn 1902); o 1902-1905 ym Mallwyd; 1905-1909 yn y Deri ger Bargoed; yn niwedd ei oes curad a churad fyth yng Nghwmafan, eilwaith. Yno y bu farw, 12 Ionawr 1910; ym mynwent yr eglwys honno y codwyd maen coffa iddo "fel arwydd o ddwfn barch ac edmygedd cyfeillion a pherthynasau".