Mae'n cynnwys gwybodaeth am lafar gwlad Rhosllannerchrugog, am hen gymeriadau gwahanol ardaloedd e.e. Caernarfon (td. 27), Caergybi (td. 32), rhestr go dda o ddywediadau Bethesda (td. 20) etc.
Ond, o dan ddylanwad afiaith bechgyn y Coleg, dirywiodd yn fuan yn gronicl o englynion ystrydebol, llinellau merfaidd y Bardd Cocos, dywediadau ysmala a lol ddigymrodedd.
Ceir cyfeiriad at Ddydd Gŵyl Dewi 1909 ar dudalen 1.