A. tt. 1-31
Y pethau mwyaf diddorol yma yw copi o'r ddwy "testimonial" a gafodd weth dechrau pregethu (8), un gan Eben Fardd (6 Rhagfyr 1859) a'r llall gan y Parch. P. Howell, Pwllheli (4 Ionawr 1860). Nodiadau ar destunau yw'r gweddill o A.
B. 1-68
Nodiadau ar destunau o'r Beibl gan fwyaf, yn gymysg a phenillion, a nodiadau ar ei wersi bob dydd. Ar tt. 41-90 ceir hanes taith bregethu fer ddiniwed o Gaernarfon i Ffestiniog, a hynodwyd gan ddau ddigwyddiad pur ryfedd - mynd i dy capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhanygrisiau yn lle un yr Annibynwyr, a chlywed hen wr yn dweud wrth William David na chyhoeddwyd ef i bregethu ym Methania, Ffestiniog, am y credid "mai yr hen Wm. Davies, Caernarfon oeddwn".
Ni wyddus fawr am y gwr ieuanc, William Davies, ond yr hyn a ddywedir yn "Hanes Eglwysi Annibnnol" yw, "dechreuodd bregethu, ac aeth i Athrofa y Bala, ond nid arhosodd yno ond ychydig. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a dychwelodd adref i fawr".