Gŵr crefyddol oedd Owen Williams a symudodd i fyw o Gaerwen Uchaf i Llanallgo (yn ôl 'Hanes Methodistiaid Môn'). Roedd yn cyfrannu yn rheolaidd at y Feibl Gymdeithas ym Môn o 1814 hyd 1843 - ef yn rhoi punt neu gini yn flynyddol a'i wraig, hanner gini. Yn y papurau ceir cyfeiriadau at ei wraig a'r plant (enwau ysgrythurol arnynt fel Ebenezer a Phricilla), ac at eu hiechyd bregus. Roedd gan Owen Williams frawd o'r enw John, ac un arall, William.
Fe ymddengys iddo gael ei ddiswyddo yn y Gaerwen yn 1846.
Masnachwr ŷd oedd Owen Williams ar raddfa go fawr. Deliai mewn sieciau o gannoedd o bunnau ar y tro. Yr oedd iddo weision yn llwytho ŷd yn Traeth Coch, Crigyll, Pont y Gored, Malltraeth ac amryw gilfachau eraill or ororau Môn. Deuai y fasnach ag ef i gyswllt â phrif fusnesau y fasnach ŷd yng Nghaer a Lerpwl.