Mae dwy ochr i'r llyfr
A.
Cymysg o nodiadau ar ramadeg Cymraeg o waith Robert Davies, Nantglyn; math o holwyddoreg a sylwadau crefyddol; sylwadau ar y pwnc a drafodid yng nghyfarfod Ysgol "Cricieth" ar 14 Tachwedd 1827; nodiadau Ysgrythyrol eto.
Ar td. 35-37 ceir copiau o ddau lythyr o dan law J.W. Prisiart, Plas-y-Brain.
Td. 40-43 - testunau pregethau a draddodwyd yng Nglasinfryn neu Bentraeth neu Fiwmares neu Benygarnedd neu Langefni. Ambell dro, Capel Glas a Llanallgo. Methodistiaid oedd y pregethwyr i gyd ond John Owen y Bedyddiwr o Langefni a bregethodd yn y Traeth Coch ar 27 Medi 1829.
Sylwer i John Evans, New Inn, bergethu'r Saesneg ym Miwmares ar 30 Medi 1829. Oes aur y pregethu teithiol ydoedd; ceir yma amryw byd o bregethwyr o'r De.
B.
Summonses, condemnation of seizures, search warrants etc. Gyda chyfeiriadau at William Evans (20) a John Pugh, Ty'n llan, Penmorfa