Anodd dweud sut y gweithiai'r Cronicl. Y mae'n debyg y darllennid y mwyafrif o'r cyfraniadau yng nghyrddau'r Gymdeithas; anfonid rhai'n arbennig iddo; ac ymddangosodd un anerchiad o waith Robin Fardd a draddodwyd ganddo i ddechrau yng Nghymdeithas Cleifion Cerrig-y-Drudion (BMSS/1576, 40). Ceir pob math o sgript a phob math o destun - hawl at ateb, ymddiddanion, bwyd cryf yr athronydd a'r difinydd, cyfarchiadau ar ddechrau blwyddyn, adolygiad ar ei diwedd, hynafion, a pheth wmbredd o farddoniaeth. Llawer iawn o ddyfynnu ar weithiau John Thomas yr hen fardd o'r Pentre'. Un or' prif aelodau oedd Thomas Jones, taid Thomas Evans, Plas Iolyn.
Weithiau daw penillion o'r America (BMSS/1576, 69-70), bryd arall lythyr oddi wrth hen aelod, fel Morris Owens o Ddinbych (BMSS/1577, 48-49). Rhoddir gwybodaeth digon pwysig am blwyf Penmachno (BMSS/1577, 57) ac am boblogaeth Ysbyty Ifan (BMSS/1577, 63); nid drwg yw'r manylion am gnwd ceirchen ddu yn Nhir Abad (BMSS/1577, 49). Llawer o gyfeiriadau at ryfel y Crimea [Crimean War].
O ddarllen y Croncil yn fanwl, ceir tipyn o fanylion am ddulliau a moddau'r Gymdeithas. Yr oedd llyfrgell yn perthyn iddi : rhennid y llyfrau ar ddiwedd y cyfarfodydd a gellid cadw llyfr am bythefnos. Ticedi aelodaeth hefyd. Tipyn y feirniadu ar aelodau yn araf yn dod i mewn i'r cyrddau eraill yn cerdded allan yn drystiog cyn y diwedd; gormod o siarad a sisial pan fyddai aelod yn annerch.
Cychwynwyd y gymdeithas tua Awst 1850. Deuai, ar y dechrau, rifyn o'r Cronicl allan bob mis (rhifyn 1 ar goll). Yn BMSS/1577 clywir cwyno a griddfan bod arwyddion marwolaeth arni ac arno; bu fyw hyd 1859 beth bynnag. Arbrawf diddorol odiaeth ar ddiwylliant gwledig Uwchaled ynghyanol y 19eg ganrif.