Llyfr Robert Thomas, Ty Engan, Bryncroes

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1540
  • Dates of Creation
    • 1790-1821

Scope and Content

Yn cofnodi pob math o daliadau.

A. Rhestr o nwyddau a brynwyd gan Thomas Jones y Nant yn 1792 (A, 1-3); cyfrif o'r modd y telid cyflog John Hughes (5-10); rhoddi arian allan ar log yn 1819, 1820 (73-4).

B. Robert Jones yn buddsoddi arian i adeiladu llongau yn Aberdaron (John Griffith), Pwllheli (Humphrey Griffith, llong "Maria"), a Thudweiliog (John Jones).

Y mae'n amlwg for Robert Thomas yn ffermwr pur gefnog; gwêl y cyfeiriad at fenthyca arian i'w blant-yng-nghyfraith.

Ymddangys ei enw yn aml yn hen adroddiadau Cangen Llŷn ac Eifionydd (Y Fibl Gymdeithas) ac mae lle cryf i gredu ei fod yn dal cyswllt agos ag achos y Wesleaid cynnar yng nghapel y Tyddyn.

Nid oes ddadl am ei gyfathrach glos â gŵr Coch-y-moel.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssrtb