Bwndel teipysgrif o lythyrau a gafwyd ymysg papurau y Parch. John Foulkes, Rhuthun (1802-1881)

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1515
  • Dates of Creation
    • d.d.

Scope and Content

Oddi wrth y gohebwyr canlynol :

1. Rd. Llwyd, Beaumaris (3 Gorffennaf 1832)

2. James Hughes, Llundain (5 Medi 1832)

3. Moses Parry, Dinbych (10 Ionawr 1833)

4. John Elias (5 Mawrth 1833)

5. Thomas Jones, Amlwch (7 Medi 1833)

6. Henry Rees (1834)

7. Ebenezer Richard (11 Chwefror 1837)

8. Wm. Morris, Tyddewi (16 Gorffennaf 1844)

9. John Parry, Caerlleon (4 Ionawr 1845)

10. Henry Rees (1848)

11. Richd. Humphreys, Dyffryn (3 Chwefror 1849)

12. Henry Rees (2 Ebrill 1867)

13. William Rees (27 Chwefror 1874)

Y pethau a dynn sylw fwyaf yn y sypyn hwn yw llythyr hir, doniol, dychanllyd James Hughes, yr esboniwr a ofalai am eglwys Jewin yn Llundain (II); y cyfeiriad at Robert Griffith, Dolgellau yn troi am dymor at y Senters (III); cynghorion buddiol Henry Rees ar achlysur priodas John Foulkes yn 1834 (VI) mewn llythyr "wedi ei ddechrau yn Runcorn, a'i orphen yn Manchester, a'i ddyddio yn Liverpool", ac anghofio rhoddi'r mis yr ysgrifennwyd ef i lawr wedi'r cwbl. Yn VII, gwelir Ebenezer Richard yn son am "Dregaron Tregarus"; yn VIII broffwydoliaeth John Parry, Caer yn 1845 am Birkenhead fel lle Cynnyddfawr; yn X deyrnged huawdl ddiffuant Henry Rees i'w hen athraw, Thomas Lloyd o Abergele (1848)