Cafwyd dros hanner cant o gyfrolau'r 'Cyfaill o'r Hen Wlad' oddi wrth Mr W.S. Jones o Golumbus, Wisconsin, brodor o blwyf Llandwrog, Arfon.
Un caredig dros ben yw'r Athro Paul Evans a Brifysgol Vermont, ysgolhaig gwych o dras Cymreig, ac yn gwario peth wmbredd o'i oriau hamdden i gasglu hen gyfnodolion Cymreig a'u gwasgaru ymhen y rhawg i lyfrgelloedd yn yr America (fel Harvard a Chornell) ac yng Nghymru (e.e. Aberystwyth a ninnau). Dalier sylw ar 9 (ei fawr gymwynas gyda'r 'Cenhadwr Americanaidd' cynnar), a 19 (sicrhau amryw byd o rifynnau'r 'Cambrian'.
Y doniolaf ohonynt yw William Owen, Cotter, Iowa, gwr a fagwyd yng Ngogledd Ceredigion, a Chorris, Meirionydd, ac a fudodd i'r Gorllewin dros ddeugain mlynedd yn ol - ei gwymwynas nodedig ef oedd cael gafael ar set hir o'r 'Cenhadwr Americanaidd'. Y mae'n gyforiog o arabedd 'flippant'; nid yw'n ddim ganddo saernio englyn; y mae'n feistr ar ddarnau barddonol yn null baled, hanner Cymraeg, hanner Saesneg, a chwbl Americanaidd. [Drwy'r Parch. Cynolwyn Pugh o Chicago y daethpwyd o hyd i William Owen.]
Dengys llythyrau W.S.Jones, P.D. Evans a W. Owen y drafferth ddiddorol i ddod o hyd i hen bethau Cymreig yn yr Unol Daleithiau.
Am y rhan fwyaf o'r llythyrau, sylwer ar :
- nodyn personol y Parch. J.T. Griffith o Groton, N.Y. (21)
- ar Americanwr yn camgyfleu 'Y Drych' yn 'Grych' (25)
- ar eco o bolitics y Gorllewin (26)
- ar dlodi cyfnodolion Cymraeg yn y 'Library of Congress' yn Washington (27)
- ar dynged dosturus llyfrgelloedd y Cymry (31)
- llaw y diweddar Dr Dan Protheroe (65)
- oddi wrth Dafydd Bach o'r Division of Fine Arts yn llyfrgell enfawr Washington (69)
- oddi wrth Josiah Thomas y pibydd enwog o Faesteg, Morgannwg (34)
Daw llythyrau 76-83 o Awstalia [Australia] a Canada. Sylwer ar :
- ymdrech garedig ond aflwyddiannus y Dr Egryn Jones o Dowyn, Meirionydd ond gynt o Melbourne i gael gafael ar yr 'Australydd' a'r 'Ymwelydd' (78-81)
- llythyrau y Parch. W.O. Lewis o Lindisfarne, Tasmania sy'n llawn gwybodaeth bwysig am Gymru't 'antipodes', yn enwedig am hynt a helynt yr achosion crefyddol Cymreig (82-83a)
- oddi wrth Tom Parry gynt o Faesteg (83b)
- oddi wrth mab hynaf Henhafod ym mhlwyf Llancynfelin, Ceredigion yng Nghanada a oedd yn llenor da ac yn seryddwr (84-85)
- llythyrau o Brisbane (86-87) yn cyfeirio at Tom Parry, Maesteg