Mae'r casgliad yn cynnwys :
- Casgliad rhwymedig o lythyrau a phapurau, rhai ohonynt yn ymwneud â John Salisbury, Llanefydd. Rhai yn llaw Alexander Brodie, 1853-1865 yn ymwneud â'r Bedyddwyr yn Harlech a'r cyffiniau.
- Llyfr cofnodion Capel y Bedyddwyr Bethel, Harlech, 1817-1866
- Llyfr cyfrifon Capel y Bedyddwyr, Rehoboth, Harlech, 1822-1914 ynghyd â chofrestr bedyddiadau, 1823-1837 a marwolaethau 1887-1889
- Rhestr addewidion aelodau o Gapel Ainon tuag at gapel newydd, 1896 a llyfr cyfrifon ar gyfer adeiladu'r capel newydd, 1896-1906
- Llyfr nodiadau James Owen sef gwaith ar lên gwlad ardal Trawsfynydd a llyfr o farddoniaeth o 1864
- Nifer o weithiau gan Dewi Eden e.e. cyfraniadau i'r wasg, barddoniaeth a chyfeiriadau at anghydfod rhwng dwy gangen o'r Bedyddwyr yn 1894-1896. Hefyd, llyfr o'i alwadau i bregethu a'i ddyddiadur, 1890-1898