1-4
Man bapurau o Sir Fon; 2 yw'r mwyaf diddorol, sef "Persons Saved by Stephen B. Jones from 1865 to 1878"
5-9
Papurau oddi wrth Mr Evan Jones, Jones Street, Blaenau Ffestiniog. Tipyn o hanes ei deulu (5); profedigaethau ei hynafiaid, a llythyrau atynt oddi wrth y Twrne Llwyd, sef John Lloyd, Penyglanne, Tanybwlch (6-9)
10
Llythyr wedi'i arwyddo gan Henry Richard yn holi am fynwentydd capeli Annibynnol Maesyfed (3 Ebrill 1871)
11-12
Gwr ieuanc o Lanidloes yn erfyn am gymorth i fyned ymlaen fel cerfiwr ar goed (1874)
13
A certain C.G.W. waxes sarcastic over the idea of a General College for Wales at Brecon
14
Llythyr oddi wrth yr Athro John Struthers (8 Chwefror 1863) at John Roberts, Student of Medicine, 19 Salisbury Street, [Edinburgh] yn gofidio clywed am farw "Mr Pryse" [Golyddan] ac yn dweud ei farn amdano fel myfyriwr. Dr John Roberts, Menai Bridge?
15
Llythyr oddi wrth Gweirydd at Golyddan yn canmol awdl ar "Dafydd Brenin Israel" o waith "Iorwerth Hebog" - canmol hollol anghymedrol.
16-17
Dwy bregeth yn sgript y Parch. E. Stephen (Tanymarian), un ar Jos. xxiv, 15 a'r llall ar Job xiii, 15
17A
Darn o lythyr at y Parch. Ellis Jones, Bangor, oddi wrth D.V. Thomas (Ap Ap Vychan). Cyfeiria at "het cantal mawr" a berthynai i'w dad. Athraw mewn Cerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau
18
Fragment of a letter upon the proper places of miracles in religion by Dr. Rowland Williams (from Broad Chalke Vicarage, 13 June 1866)
19
Rhifedi presennol y Gymdeithas Ddirwestol yng Nghaernarfon, Medi 1838. 134 wedi torri eu hardystiad
20
Ateb doniol Anthropos i'r Parch. Robert Williams, B.A. Engedi, Caernarfon pan wahoddodd hwnnw ef i annerch ar y "Tadau Methodistaidd" (Sul y Dathlu, 1935)
21
Profedigaeth llenor o Gaernarfon
22
Enwau strydoedd Caernarfon (ymgais i'w Cymreigio gan Gangen leol y Blaid Genedlaethol)
23
Cyfrifiad yr Eglwys a'r Enwadau ym mhlwyf Llanllechid (Mai-Mehefin 1887)
24
Reminiscences of Manchester Welsh Calvinistic Methodists by Lewis Hartley of Bangor (11 October 1909)
24A
Sylwadau diddorol ar fywyd a buchedd Robert Thomas, Conwy, gan y Parch. William Morris (ar ol marw R.T. y daeth BMSS/1810-1830; 1839-1848 i'r Llyfrgell)
25
Mwy am helynt o gael BMSS/1915 (Llyfr Festri Llandwrog) i mewn
26
Helynt cyfreithiol yn Aberafan; holi am hen lyfr (gyda nodiad bod y diweddar Miss Talbot yn rhoddi 30/- am bob copi o honno a gai a'i ddistrywio)
27
Llythyr o Batagonia yn dweud pethau go hallt am "Y Parch. o'r Bala" sef Michael D. Jones (7 Mai 1892)
28
Darn o farddoniaeth ("adysgrifiwyd ar gyfer Llyfrgell Coleg y Gogledd, Hydref 1935") gan Glyn Myfyr, Blaenau Ffestiniog