Amryw lawysgrifau

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1569
  • Dates of Creation
    • 20fed ganrif

Scope and Content

1-8

Dal cyswllt a theulu Ellis Owen, Cefn-y-Meysydd. Nid hawdd gwybod yn awr pwy oedd John Parry a ysgrifennodd 1-2. Hen fyfyriwr yn y Coleg Normal oedd Owen Ellis, nai. E.O., a ysgrifennodd 4-8 a ddaeth yn ysgolfeistr i'r Rô Wen yn 1864

9-13

O weled y sgript a'r papur nid oes ddadl nad Carneddog yw'r ysgrifennydd. At J.W. Jones, Ffestiniog yr ysgrifenwyd 8-10; amryw gyfeiriadau at Bob Owen a Ioan Brothen, ac at gasglaiadau o gerddi oedd yn corddi ei ben; i Lyfrgellydd Bangor yr anfonwyd y ddau arall.

14-18

Llythyrau oddi wrth Emlyn Evans at Alafon (14), oddi wrth Gwrtheyrn, awdur, "Hanes Pum Plwy' Penllyn" (15), oddi wrth Gymro ar y ffordd i'r Wladfa yn 1875 (16), oddi wrth E.P. Jones, Ruabon, yn amgau llythyr at ei daid yn 1895 oddi wrth Gymro yn Santa Fe, Argentina (17). Ateb Mr R.T. Jenkins i feirniadaeth ar ei "Hanes Cymru yn y 18fed Ganrif" yw 18.

19-23

Llythyrau doniol ac i raddau dieithr ac annirnadwy oddi wrth Dafydd Hugh Jones, Y Prysau, ger Llanuwchllyn (1924-34). Nid oes fodd ei disgrifio. Rhaid yw eu darllen.

24-32

Gweinidog i'r Bedyddwyr mewn cyfwng meddwl adeg y Rhyfel Mawr a geir yn 24; hanesion a cherssi am borthmyn gan J.W.Jones, Ffestiniog a geir yn 25; a J.H. Manuel, Llanidloes yn egluro system newydd o ddysgu treigliadau'r Gymraeg - dyna ergyd 26 (Mai 1914). O 27 i 32 y mwyaf diddorol yw llythyr y Parch. John Phillips (18 Medi 1865) yn cyfarwyddo pobl Trawsfynydd pa sut i gael British School (27), a llythyrau'r Parch. John Thickens yn 1934 yn sôn am fanylion yn hanes Methodistiaeth Llundain (30, 31)

33-73

Hir a phoenus ymchwil i deulu Brodiarts, Môn, sef teulu gwraig gyntaf John Elias. Nid amdani hi y mae'r manylion hyn, ond am y teulu yn ei wahanol ganghennau.

74-89

Extracts from the Prescription Book of a North Anglesey doctor (1875-1883). Most of the cases are reverend gentlemen e.g., Ceulanydd the Baptist and bard (74), John Pritchard and the C.M. Minister and an author of "Hanes Methodistiaeth Môn" (80), Thomas Evans the Congregationalist minister (86) and several clergymen

90-94

Llên gwerin, enwau lleoedd etc. yn ardaloedd Pentraeth, Llanbedrgoch etc. Gwaith Mr R.H. Thomas, Cae'r ffynnon

95-110

"John Jones the Preacher" etc. A somewhat indulgent analysis of the outlook of the Victorian Welsh preacher.

111-124

"Wynnewood and the Wynnes" (found amongst the papers of the late Gabriel Hughes of Rhyl). A very interesting account of the Quaker Wynnes of Caerwys in Flintshire, their forefathers, and their descendants in America (by Mr Howard W. Lloyd of Philadelphia)

125-126

"Manteision addysg yn ardal y Graig ger Bangor" gan Mr Griffith Jones, hen frodor o'r lle, a hanesydd gwlad manwl iawn ei ffordd [cp. BMSS/622]

127-131

Plwyf Llanbeblig "Pobl ar gardod y plwyf" - 1884-5

132-139

"Y pennillion canlynol o'r eiddo Mrs Ann Griffiths ydynt rhai nad argraffwyd o'r blaen"

140-155

Dwy bregeth gan Christmas Evans ac i bob ymddangosiad yn ei law ef ei hun - gwêl y nodiad gan y diweddar Barch. D.E. Hughes, Blaenafon, Mynwy

156-171

Nodiadau cyflawn o bregeth gan y diweddar Barch. Ddr. John Hughes, Caernarfon a draddodwyd yng Nghyfarfod Misol Trefriw, 1 May 1863. Testun Ioan X,18

172-175

"Cof Nodiad o'r lleoedd y Cynhaliwyd Cymanfa Bregethu Bedyddwyr Môn, 1866-1923". Y cofnodydd oedd William Jones, Penparc, Penysarn, Amlwch - ond nid yn ei law ef y mae'r sgript. By Mr Jones mewn 54 o'r cymanfeydd - dim ond rhai 1866, 1867, 1868, 1870 a gollodd

176-178

Hanes y census [cyfrifiad] a wnaed yn 1874 yn Lerpwl a'r cymdogaethau o'r boblogaeth Gymreig, pa nifer oedd yn mynychu moddion gras etc. Ffeithiau diddorol iawn.

179-180

Can gardod gan ryw John Jones o Gaernarfon (John ar 179, Robert ar 180)

180-186

Emyn y D.D.; Y Dydd a'i Dad etc. (Tybed a'i S.R. oedd y tu ol i'r rhai hyn?)

187-191

Cerddi "Rwyf fi wedi colli fy nghariad" etc.

192

Cerdd gan Alafon "Dyfodiad yr Anrhydeddus Edward Mostyn i'w oed"