Bu Gweirydd ap Rhys fyw o 1807 i 1889. Ymhell cyn ei farw cydnabyddid ef fel un o'r prif awdurdodau ar orgraff a seiniadaeth y Gymraeg. Yr oedd syniadau sownd iawn ganddo ar ieithwedd gymharol. Ef oedd asgwrn cefn "Y Gwyddoniadur" a safai yn rheng flaenaf traethodwyr Cymru yn ei ddydd.
Methoddd ddygymod â threfn y Methodistiaid, ac aeth at yr Annibynwyr.
Pan ofynodd Cynddelw yn 1875 iddo fyned ati i ysgrifennu hanes ei fywyd, yr oedd Gweirydd ap Rhys yn tynnu at oedran yr addewid ond yr oedd ei alluoedd fel llenor yn eu llawn aeddfedrwydd, ei gof yn fachog ryfeddol, a'r elfen ddramatig yn dal i gyniwair drwy gelloedd ei feddwl.