Llawysgrifau H. Ariander Hughes, Llanberis

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/1019-1028
  • Dates of Creation
    • 1879 - 1915

Administrative / Biographical History

Roedd H. Ariander Hughes, Llanberis yn aelod o deulu Gellidara ger Pwllheli ac felly'n berthynas agos i H. Tudwal Davies a'r bardd coronog, Emyr. Bancer ydoedd wrth ei alwedigaeth ac yn Ffestiniog y treuliodd ran fawr o'i oes. Gwr rhadlon, doeth, bonheddig, di-aiil fel ysgrifennydd Eisteddfod - ef oedd ysgrifennydd Eisteddfod Gwynedd, 1891 ac ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol 1898, ill dwy yn Ffestiniog.

Ef oedd un o flaenoriaid cyntaf eglwys Maenofferen a gwrogaeth nid bychan iddo oedd cyflwyniad y nodiadau pregethau gan Mr J.T. Williams.

Yn anffodus, cyfarfyddodd a phrofedigaethau dyrys yn ei flynyddoedd olaf yn Ffestiniog a symudwyd ef i Lanberis. Bu farw yn 1928.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsshah