tt. 33-34 ceir can i Edeyrnion ("A Cambrian Melody") gan ryw M.C.
tt. 35-37 "Myvyrdod yr Afradlon" gan Sior o Rydymain
tt.50-51 englynion o ddiolchgarwch i Miss Jones gan R. Thomas am rodd o "Hanes Methodistiaeth Cymru"'
t. 74 ceir "Mary Jones, widow" yn canu penillion marwnad i Mrs David Charles o Gaerfyrddin a fu farw yn 1833
t. 77 tebyg mai un o'r Saundersons yw "R.S. Jun'r"
t. 80 John Davies, Nantglyn
t. 84 Iorwerth Tegid
tt. 124-5 y pregethwr brodorol o Cassia, U. Larsing, yn ysgrifennu Cymraeg (31 Hydref 1862)
t. 139 llaw Ioan Pedr
t. 113 llaw'r Dr. Lewis Edwards yn cyfleu ei gyfieithiad o "God moves in a mysterioud way" (Cowper) ond yn anffodus wedi gadael y pumed pennill allan
tt. 149-152 ceir nodiadau o'r pregethau yn Sasiwn y Bala (Rhagfyr 8-10, 1868)
Gyda'r peth mwyaf diddorol yn y llyfr yw "Some of the last words" Bridgetta Dorothea, sef gwraig Simon Llwyd o'r Bala, a fu farw Mai 12, 1832, gyda manylion cywrain odiaeth amdani. Merch ydoedd i George Price o Ryd y Colomennod yng Ngheredigion.