Sefydlwyd Cymdeithas Cymru Fydd yn Llundain a Lerpwl, yn bennaf fel sefydliad diwyllianol a llenyddol. Roedd yna nifer o ganghennau i'r Gymdeithas.
Fodd bynnag, yn y 1890au, ceisiodd grwp o bobl o dan arweiniad David Lloyd George droi'r gymdeithas yn fudiad cenedlaetholgar gan fynnu cael annibyniaeth i Gymru.
Yn ôl y llyfr cofnodion yma, bwriad y gymdeithas oedd meithrin meddyliau'r aelodau drwy lenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y 13 o Fedi 1887 gyda 12 o aelodau yn bresennol. Cadeirydd cyntaf y gymdeithas oedd John Morris-Jones.