t.t.ii-viii Cynnwys y llyfr, enwau'r beirdd etc.
t. ix Pump o englynion Dafydd Nanmor
t. x Dau englyn coffa am Evan Nanney o Dyddyn y merched gan Robert Edwards o Tyn y pwll. Penillion ar ddirwest gan E. Fardd.
t.xi Pennill ar y monachdu a anfonwyd gyda ffon oddi wrth Thomas Parry, Pen y ddinas, Llandegai i anerch John Williams o'r ty'n Llan Llanddeiniolen
t. xii Cywydd y March Glas, Gwerfyl Fychan
t. xiii Y Cristion yn Marw Cyfieithiad ac englyn gan Dafydd Ddu Eryri
t. ii-viii, xiii yn llaw Rolant Huw, y gweddill mewn gwahanol scripts.
Gwelir fod Rolant Huw wedi copio amryw o gywyddau yr Oesau Canol, amryw o ganeuon oes Huw ac Edward Morus, amryw eraill o gyfnod Twm o'r Nant a Rolant Huw ei hun.Caiff ardal y Bala gynrychiolaeth dda yng ngweithiau Morris ap Robert ac R.H. Beirdd y gwelir eu henwau yn aml wrth get cerddi o chywyddau yw Richard Parry a Robert Lewis. Llawysgrif pwysig i astudio gwaith beirdd hanner olaf y 18ed ganrif.