Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif penderfynodd rai Cymru ymfudo i Batagonia, De America. Y gobaith oedd y byddent yn symud i wlad lle byddent yn medru byw ac addoli’n rhydd fel Cymry, gan gynnal eu hiaith a’u traddodiadau.
Hwyliodd yr ymfudwyr cyntaf, tua 150 ohonynt, o Lerpwl ym mis Mai 1865 ar fwrdd y ‘Mimosa’. Ddeufis yn ddiweddarach, ar ôl teithio 8,000 o filltiroedd, fe wnaethant gyrraedd y Bae Newydd (neu Porth Madryn/Puerto Madryn) gan gael eu golwg cyntaf ar y wlad a fyddai’n gartref newydd iddynt. Roedd realiti bywyd ym Mhatagonia, lle’r oedd y tir yn anial a digroeso, yn anodd iawn i’r ymfudwyr cyntaf. Fe wnaeth llawer ohonynt wynebu tlodi a chaledi mawr wrth iddynt ymlafnio i ennill bywoliaeth o’r tir. Ym mhen amser, fodd bynnag, roeddynt wedi llwyddo i sefydlu eu cymunedau Cymraeg eu hunain gan adeiladu capeli ac ysgolion.