Dyddiaduron Thomas Williams, Rhiwlas.

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/653-680
  • Dates of Creation
    • 1867-1908
  • Physical Description
    • 28 eitem

Scope and Content

Maent yn cynnwys gwybodaeth am bregethwyr a'u pregethau a chofnodion o gyfarfodydd crefyddol.

Mae'n son am y "lock-out" yn chwarel Cae Braich y Cafn quarry ym 1870 ac am ddiwybiad 1904-1905.

Mae'r wybodaeth brintiedig am yr achos Wesleyaidd hefyd o ddiddordeb ac fe geir rhestr o'r ffeiriau drwy Gymru.

Administrative / Biographical History

Roedd Thomas Williams yn byw yn Rhiwlas, Sir Gaernarfon ac yn gweithio yn chwarel Cae Braich y Cafn ym mhlwyf Llanllechid. Roedd yn aelod o'r Wesleyaid, ac mae'n amlwg o'i ddyddiaduron iddo gael ei ddylanwadu gan ddiwygiad 1904-1905.

O ran gwleidyddiaeth, roedd yn ddyn ceidwadol, ac yn amlwg yn erbyn cael hunan-lywodraeth i Gymru. Roedd yn aelod o Bwyllgor Ceidwadwyr Rhiwlas a Waen.

Access Information

Open

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsstwms