Casgliad o Awdlau ar "Helen Luyddawg"

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/346
  • Dates of Creation
    • 30 Mehefin 1876

Scope and Content

(i) Meurig t.t.1-11 600 llinell a nodiadau hanesyddol

(ii) Cystenyn I t.t. 11-19 600 llinell

(iii) Cystenyn II t.t.19-27 582 llinell

(iv) Richmond t.t.28-40 593 llinell gyda rhagdraeth a braslun

(v) Brutwn t.t.40-48 568 llinell

(vi) Gruffydd ab Arthur t.t. 48-57 588 llinell

(vii) Eusebius t.t. 57-66 582 llinell

Copiwyd gan J. Richards (Isalaw)

Administrative / Biographical History

Ganed John Richards (Isalaw) mewn ty o'r enw'r King's Head yn Hirael, Bangor. Roedd ei dad, Richard Richards, yn enedigol o Aberdaugleddau, sir Benfro, a'i fam Mary o Langwnadl, Llyn. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Frydeinig yn ardal y Garth, Bangor ac yna yn Shoreland Road School, Birmingham, Lloegr am ddwy flynedd, lle y dechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth o dan Mr Andrew Deaking, yr organydd. Pan ddychwelodd i Fangor, Dechreuodd, gyda Thomas Williams, y dosbarth Sol-fa cyntaf ym Mangor.

Byddai Isalaw yn cynorthwyo nifer o gyfansoddwyr drwy gopio a chywiro eu gwaith. Ysgrifennodd hefyd nifer o erthyglau ar gerddoriaeth mewn cylchgronnau. Roedd yn gyfansoddwr ac fe gyhoeddwyd ei waith yn "Caneuon Isalaw"

Bu farw ar 15 o Fedi 1901 ac fe'i claddwyd ym mynwent Glanadda, Bangor

Access Information

Open