Cyfrol o farddoniaeth, carolau a gweithiau eraill a ysgrifenwyd gan John Morgan

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/421
  • Dates of Creation
    • c. 1690au

Scope and Content

John Morgan sydd wedi cyfansoddi rhai o'r gweithiau, ond mae llawer yn perthyn i feirdd y 17eg ganrif megis Tomos Prys o Blas Iolyn, William Phylip o Ardudwy, Sion Dafydd, William Llyn, Sion Philip, Dafydd ap Gwilym, Hugh Morus, Edward Morus, Thomas Llwyd, Mathew Owen, Morris Richard, Huw Cadwaladr a John Vaughan etc.

Ceir yma hefyd nodiadau amrywiol megis rhestr o noddwyr Eisteddfod Caerwys 1567, rysetiau meddygol, beddargraff Archesgob John Williams, araith Sion Tudur a thraethodau.

Dyma ddadansoddiad bras o gynnwys y llawysgrif :

t.t.1-14 Copiau o naw o gywyddau Tomos Prys o Blas Iolyn

t. 14 Cofnod am farw John Morgan

t. 15 Pennill "pan oeddwn yn glaf iawn".

Cerdd i ofyn coed i Roger Salesbury

t.t.21-22 Cerdd Ladin gan John Morgan

"In Reverendum admodum Patrem Dominum Humphredum Bangoriensem Episcopum"

t.t.22 Cerdd Ladin

"In Indignationem innecessariam Domini Lloyd partialis Diacasani Asaphensis"

t.t.38-43 Tri chywydd gan Tomos Prys

t.t.43-47 "Ymddiddanion ffraethion cymmengras a fu rhwng y Paun bach o Wickair ac Wgon o Gaer-einion ymhowys"

t.t.47-49 Rhestr o noddwyr a graddedigion Eisteddfod Caerwys (1567)

t.t.49-64 Cywyddau gan Tomos Prys

t.65 Cynghorion meddygol gan John Morgan

Beddargraff Lladin yr Archesgob John Wlliams yn Eglwys Llandegai

t. 66-70 Araith Sion Tudur : Hanes y Trwstan.

t.t.70-73 Rhai o weithiau William Phylip o Ardudwy

t.t.73-74 "My letter to my Lady Grymes occasion'd by Mr Fitz Gerrard's discourse at Gorddinog"

t.t.85 "Evan Owen Beaumaris 1849" [Perchenog y llawysgrif unwaith]

t.t.86-87 "Xmas Carol"

All you that are to mirth inclined ...

t.t.117-120 Cywydd Marwnad Mrs Elizabeth Price o Faes-y-garnedd gan John Morgan 1689

t.t.120-122 Cywydd i Sr. Rees Cadwaladr ac i Sr Edward Thomas, dau offeiriad gan Sion Dafydd

t.t.122-123 Cywydd Cymmod gan Sion Dafydd

t.t.123-125 Cywydd Marwnad Syr Owen ap Gwilym gan Wm. Llyn

t.t.125-128 Cywydd yn deongl y ddameg sy'n y 18fed bennod o Luc Efengylwr gan Sion Philip

t.t. 128-131 Cywydd i Sion Lewis Owen o Ddolgellau

t.t. 131-149 Cywyddau o waith Dafydd ap Gwilym

t.t. 150 Cwynfan Adda pan yrrwyd ef o Baradwys

t.t. 192-324 Traethawd neu bregeth ar "Bloedd-nad ofnadwy yr Udcorn diweddaf neu Ddyfodiad Crist i farnu'r Byd"

t.t. 329-330 "Ychydig benillion i ddangos natur a moddion y Gwr Boneddigeiddwych ar Cybydd crintach ariangar" J.M. (1694)

t.t. 330-331"Ymddiddan rhwng J.M. a R.W" J.M. (1695)

t. 331 Englyn gan J.M.

t.t. 332-333 "Ymddiddanion rhwng deuwr o'r Wlad ar y Mesur Triban"

t.t. 334-335 "Penillion yn dangos natur a chynneddfau Dynion pruddion a wnaed ar y chweched o Fai 1697"

t.t. 335-336 "Ychydig o benillion yn datgan helyntiau'r byd (1697)

t.t. 337-344 "Y mannau hynodaf yn y Bibl - cyssegr-lan wedi eu rhoddi i lawr ar geiriau caletaf anhawddaf wedi eu hegluro a geiriau sathredig"

t.t. 401-402 "Carol gwyliau am y fl. 1696"

Fel dyma'r wyl bendant i ganu

gogoniant etc.,......Hugh Maurice (1696)

t.t.402-403 "Ychydig benillion ar y mesur a elwir Trwm-galon i annerch ?

Meinir ifangc brydweddol foneddigeiddwych" J.M. (1696)

t.404 Cynghorion meddygol at y Gravell

t.t. 405-406 "Cerdd Sionyn eisynin"....Huw Morus

Gwrandewch arnai'n treuthu tan ganu ton gaeth etc.,

t. 406 "Carol am y flwyddyn 1695" J.M.

t.t. 409-410 Penillion 5-22 o gerdd Huw Morus (1691)

Oni bae'r milwyr sy'n erlid y treiswyr etc.

t.t.410-411 "Carol i'w ganu Wyl Fair 1693/4" J.M.

Dangosaf ar draethod ryfeddol ufudd-dod etc.

t.t.411-412 Publius Lentulus his newes to the Senate of Rome concerning Jesus Christ"

t.t.412-413 "Carol i'w ganu y Plygain Ddydd Natalic 1693" J.M.

Wrth ei gwt "Terfyn gwaith brus"

t.t. 413-415 Carol y Fialchen

t.t. 416 "Ychydig benillion a wnaed i'r Parchedig ar Anrhydeddus John Jones D.D. a Deon Bangor yn y flwyddyn" J.M.

t.t. 417-423 Pedair Carol gan Edward Morus

t.t. 423-424 "A severe Reflection upon the unavoidableness of man's Mortality"

t.t. 427-444 Cerddi a Charolau gan Edward Morus

t.t. 447-448 "Cerddi i Mr William Salbri o Rug dros William Probert i ofyn Feiol "Huw Morus

t.t.449-453 Dwy Garol gan Edward Rowland

t.t. 453-457 Dwy Garol gan Thomas Llwyd ifangc

t.t. 457-459 Carol gan Mattew Owen

t.t. 459-460 Carol yr Haul gan Morris Richard

t.t. 461-463 Carol (anghyflawn) Huw Cadwaladr

t.t. 463 Englynion i Thomas Llwyd ifangc ar ei droedigaeth yn Gwacer (Quaker)" John Vaughan

t.t. 464 Ateb Thomas Llwyd

t.t.464-465 "Cerdd faswedd" Thomas Llwyd

t.t. 466-467 "Cerdd y Consymsiwn" Huw Morus

t.t.467-468 Cerdd T. Llwyd ifangc

Pob llangc or cwmpasedd a gara'r fun hoewedd etc.

t.t. 468-470 Cerdd "A dynnwyd allan or 3rdd o Ddaniel" J.M.

t.t.470-474 Dwy gerdd anghyflawn Jane Vaughan cadwaladr y Prydydd ac OA

t.t.475-476 Carol (anghyflawn) J.M.

t.476 Penillion a ddanfonodd gwr ifangc i'w gariad [pan] yn glaf"

t.t. 477-478 Englynion gan Robin Clidro, Edward Rowlands, Sion Philip etc. "Cywydd i dduw ar y 15 Salm gan Sion Tudur

t. 479 Carol (anghyflawn) J.M. (1700)

t.t. 479-480 "Carol i'w ganu y Plygain ddydd Natalic 1699" J.M.

t.t. 480-481 "Carol i'w ganu y Plygain ddydd Natalic 1698" J.M.

t. 481 Chwech o benillion i annerch Mrs Davies o Gaerhun" J.M.

t. 482 Penillion Pobl Aber a Llanllechid"

t. 483 "Carol gwyliau am y fl. 1697" J.M.

t. 484 "Penillion i annerch drachefn (enw yn absennol) merch ifangc gariadus, naturioldeg, fwyneiddlan" J.M. March 24th 1696/7

t. 484 Englyn i Syr William Williams o'r Glasgoed Huw Morus

t.t. 485-487 Nodiadau Lladin ar resymeg ac athroniaeth naturiol

t. 488 Englynion i J.M. gan John Richard

Administrative / Biographical History

Ganed John Morgan ym 1662. Mynychodd Goleg yr Iesu, Rhydychen ym 1693 a daeth yn gurad plwyfi Llanllechid ac Abergwyngregyn, cyn dod yn ficer Conwy ym 1697. Bu farw ym 1701.

Ef yw awdur "Eglurhad byrr ar Gatechism yr Eglwys ... o waith y Gwir-barchedig Dad yn Nuw John Williams, Escob Caer-Gei, 1699 and Bloedd-nad ofnadwy, yr udcorn diweddaf neu ail-ddyfodiad Christ i farnu'r byd ..., 1704"

Access Information

Open

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssjmm