Ganed Richard Hughes ym 1837 a bu farw ym 1930. Fel bachgen ifanc, bu'n gweithio ar fferm Dyffryn Gwyn i'r Parchedig John Prytherch, un o ffermwyr mwyaf yr ynys. Gweithiodd hefyd fel hwsmon i ddwy hen ferch a adawodd eu heiddo iddo ac o ganlyniad rhyddhawyd Richard Hughes i deithio ac i gasglu llyfrau.
Teithiodd i Balestina, Yr Aifft, Groeg a'r Eidal. Hefyd, dechreuodd gasglu llyfrau a llawysgrifau prin a daeth yn gyfaill i Thomas Shankland, Llyfrgellydd y Coleg.
Roedd Richard Hughes hefyd yn noddwr hael o Eisteddfod Môn.