Ganed John R. Jones ym 1860, yn fab i Richard ac Ann Jones o Fethesda, sir Gaernarfon. Roedd ganddo bump o frodyr a gweithiodd yn Chwarel y Penrhyn. Pan yn 16 oed, symudodd, gyda'i deulu i fyw i Flaenau Ffestiniog.
Mae ei lawysgrifau yn datgelu iddo symud o Flaenau Ffestiniog i Dregarth ger Bangor ac iddo fod yn gystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau ac yn gyfranwr i bapurau newydd.