Testunau a phregethau Capel y Tabernacl, Bangor

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/209
  • Dates of Creation
    • 1864

Scope and Content

Sylwadau pur lawn gyda mynegai diddorol ar y diwedd.

Ysgrifenwyd gan Robert Amicus Williams, Mount Street, Bangor

Administrative / Biographical History

Agorwyd y Capel M.C. Tabernacl cyntaf yn Dean Street, Bangor ym 1821, ond oherwydd y cynnydd mawr ym maint y gynulleidfa, rhaid oedd adeiladu capel mwy ym 1834.

Ym 1892 daeth y Parchedig T.J. Wheldon yn weinidog ar y Tabernacl, ac yno yr arhosodd hyd 1910. Roedd yn wr o ddylanwad mawr a phersonoliaeth cryf a oedd o blaid adeiladu capel newydd yn Garth Road, Bangor (er fod rhai aelodau o'r eglwys yn erbyn hynny)

Gosodwyd carreg sylfaen y trydydd Capel Tabernacl ar 14 o Hydref 1903 ac fe agorwyd y capel yn swyddogol ar yr 2 o Orffennaf 1905. Y Parch. T.J. Wheldon oedd y cyntaf i bregethu yno. Erbyn 1906, roedd gan y capel 400 o aelodau, ond erbyn 1968 roedd y nifer wedi gostwng i 150.

Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Nghapel y Tabernacl ar 29 o Fedi 1968. Ymunodd yr aelodau a oedd yn weddill, gyda chapel Twrgwyn, Bangor Uchaf.

Access Information

Open

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsstab