Llyfr Cadwaladr Davies, athro ysgol "yn ymul y Ddwyryd", ger Corwen; ategir hyn yn un o gerddi Dafydd Roberts iddo (td.279, 311) - "tirion athro reiol ..... a phlant y wlad o'ch cwmpas". Y mae'n gyfrol fawr, wedi ei hysgrifennu, gan mwyaf, yn ystod y blynyddoedd 1735-1745. Nid oes ddadl nad llaw Cadwaladr a welir drwyddi ymron i gyd; dywed hynny droion ar waelod y dail, a rhydd siarsiau difrifol i'r darllenydd na ddigwydd dim drwg iddi (rywbryd, bu'r MS. ym meddiant y Parch. John Williams, M.A., pennaeth Ysgol Rad llanrwsr am ryw ugain mlynedd ar ôl 1791 - gwêl ei script, yn enwedig ar odre t.290).
Nid oes obaith cyfiawnder â'r gyfrol hon heb ei darllen drwodd a thro. Cerddi a charolau plygain yw y corff mawr, ffrwyth canu beirdd a baledwyr Penllyn ac Edeyrnion, gwlad Cerrig y Drudion, a rhannau uchaf Hiraethog; ceir hefyd ambell gywydd, e.e., Evan Williams o Langybi yn gofyn am ramadeg Sion Rhydderch (328-329); ac amryw awdlau marwnad, fel awdl Sion Rhyderch ei hun ar ôl Rowland Pugh o Rûg (403-406); "penhillion traws reswm" gan Dafydd Robert (395); cerddi ffolant; a gwthiwyd englyn ar ôl englyn i lanw'r gwagleoedd gwynion ar waelod y dalennau. Yr oedd Cadwaladr ei hun yn dipyn o law ar wau cerddi (gwêl 321, 558-561). Hyd yn hyn, ni wyddys fawr amdano, namyn ei fod yn talu rhent am dy a thyddyn i John Humphreys o 1729-1739 (473; a sylwer ar y draft rhybudd i ymadael ohonynt yn 1743, td. 543). John Humphreys o'r Maerdy, ger Gwyddelwern, mae'n lled debyg (Pedigrees 322).
Pwysleisiwn eto mai cerddi canol y ddeunawfed ganrif yw'r nerth mawr, serch bod ynddi amryw gopiau o weithiau Huw ac Edwart Morus. Yn bur naturiol, gwelir enwau amryw o'r baledwyr a ddyry'r diweddar Brifathro J.H.Davies ar ddiwedd ei Bibliography of Welsh Ballads (253-256);ond y mae yn y llawysgrif lu o gerddi gan awduron nad oes son amdanynt yn y Bibliography. Er enghraifft, Lewis Cynllwyd (30-31); Richard Abram (104,106,559-561); Richard John Richard (468); Hugh Thomas a rydd gyngor i John Thomas, ysgolfeistr Llandderfel, i ymwrthod â'r fflagenni cwrw oedd yn ei feddwl (471-472); Dafydd Morris o Faescyllan (480); Thomas Rowland o Nant y Ceubren (481) ; Twm Tegid (497). Amryw o'r rhyw deg, fel Mrs. Wynne o Raggat (476-7) yn canu ymddiddan rhwng y Gog â'r Ceiliog Du (c.p. Bibliography 667, cân wahanol); Margaret Jones (279); Catherine Robert Dafydd (65-67); a Jane Hughes (84). Ar td. 465-7 ceir 23 o bennillion gan David Evans o Lansilin yn gofidio, ac ef yn Eglwyswr ei hun, am fywyd ysgafala Laodiceaidd swyddwyr yr Eglwys - ai yr un oedd ef â Dafydd Evans o Lanfair Caereinion (Bibliography, 201)?
Heblaw y cerddi, ymhoffai Cadwaladr yn nyfnion wybodau sêr-ddewiniaeth (334-394; 549-553); mewn dehongli tywydd a breuddwydion (234-260); a dangos rhinweddau cysegredig dyddiau gwylion (266-272). Heb sôn am faith gynghorion at glwyfau anifeiliaid (489-495), ac at wahanol afiechydon dynion (177-196). Tybed ai ei fawr sel dros blanetariaeth a wnaeth i Gadwaladr gopio allan Gwyddor Uchod Morgan Llwyd (418-439), ond heb air am Morgan wrth ei chwt, a dim ond Psalm VIII,3,4 uwchben iddi, sef yr is-deitl neu'r adnodau testunol (Gweithiau II, 99)?
Ar wahân i'r cerddi a'r sôn am sêr a chyffyriau, ceir prawf fod y copiwr yn dipyn o gyfreithiwr gwlad; beth bynnag, rhoddai ar gôf a chadw ddogfennau a deifl dipyn o oleuni ar y bywyd cymdeithasol oedd yn gefndir i'r cerddi : y paratoi at ymladd ceiliogod (264); gweddw o Wyddelwern, wedi colli ei gwr a'i buwch yn ogystal, yn darllaw barilaid o gwrw, gan obeithio y deuai digon o'r cymdogion yno ar 28 Mai, 1747, i yfed y ddiod a thalu amdani er mwyn ei digolledu i raddau (451-2); trwydded i Dafydd Robert o Lanycil i fyned tu allan i'w blwy' weithio wrth y cynhaeaf, hynny o 10 Awst i 15 Hydref, 1745 (452); apêl Robert Jones, gynt o'r Fedw Arian, at Syr Watkin am amryw drugareddau (457-459). Ar td. 460 ceir cân o foliant i'r un Syr W. gan Robert Evans amser y fatl fawr (1741) am gynrychioli Sir Ddinbych yn y Senedd rhyngddo ef â John Myddelton o'r Waen : dyna ergyd y gair Miltwnied yn y pennill cyntaf. Ar td.554 ceir cân Saesneg Iagoaidd (Jacobite) i'w ryfeddu.
Tra diddorol yw "Marwnad yr Helwyr" gan Ned Lloyd (462-4); nid marwnad, yn hytrach canu utgorn i alw ynghyd holl Eglwyswyr Llanuwchllyn a'r Bala i erlid ar warthaf y pengrynion Shenkun (Morgan?) a Harish (Howell Harris) - cân lawer iawn mwy diddorol na'r unig un o waith Ned a welir yn y Bibliography (640).
Er mor gorfforol yw'r MS. bu ynddi unwaith fwy na 564 td., canys gellir bod yn sicr golli dail rhwng y marciad presennol 460-461 a 532-533.