"Gweithiau Morgan Llwyd, III, trefn E. Lewis Evans"

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/3135
  • Dates of Creation
    • d.d.

Scope and Content

Y trefnydd a'r golygydd yw'r Parch. E. Lewis Evans o Bontardulais, awdur llyfr da ar Forgan Llwyd a'i gyfnod. Copi typescript yw hwn o lyfr a fwriedir gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, yn cynnwys ysgrifeniadau gan Morgan Llwyd a llythyrau ato, a ddarganfuwyd ychydig flynyddoedd yn ôl ym Mhlas Iolyn ger Croesoswallt. Ystyr III yw y drydydd gyfrol yn y gyfres a ddechreuwyd gan y diweddar Tom Ellis a'r Prifathro J.H.Davies. Pan ddaw'r dydd da (ar ôl y Rhyfel) i'r llyfr ymddangos, gobeithir y bydd rhagair (gan T.R.), rhagymadrodd (gan Mr. Evans), a mynegai - nid oes onid gwagleoedd ar eu cyfer yma. 175 td., a ddosberthir fel y canlyn:-

1. Salmau Cân, Hymnau, &c.....1-24. II. Rhyddiaith Gymraeg.....25-35. III. Religio-Political Writing.....36-105. IV. Letters to Morgan Llwyd...106-170. V. Letters to Mrs. Ann Lloyd....171-175.