Papurau Miss Roberts, Manchester House, Llanllyfni

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/3902
  • Dates of Creation
    • d.d.

Scope and Content

yn dal cyswllt â dwy ochr ei theulu, dad a mam. Y cyntaf yw'r mwyaf diddorol, sef llythyr oddi wrth Gymro o ardal Ffestiniog (o"Dy Log ynghwr y coed", Medi 26 1844, ryw 8 milltir o Utica, U.S.A.) at W. Owen, goruchwyliwr chwareli Holland, yn adrodd ei brofiad yn croesi'r môr, torri a chwynnu coed, a chael cyflog da, os anwastad. Cyfeiriad at y cyfaill o'r Hen Wlad a'i olygydd, y Parch. William Rowlands; at Ellis Jones o'r Fuches Wen, pregethwr neu ddau, a hen gyfeillion yn yr hen wlad. "Directiwch (lythyr) fel hyn - Wm. Williams, care of John Watkins, Deerfield, Utica, State of New York". Teulu ei thad a biau iii-vi : llinellau ar ymadawiad un ohonynt (Rice Roberts a aeth allan i Monroe County, Wisconsin) yn Nhachwedd, 1858; gwahanol gasgliadau y M.C. ym Meddgelert, lle'r oedd ei thaid yn cadw'r llythyrdy, ac yn fwy neilltuol ym mywyd cyhoeddus yr ardal (gwêl D.E.Jenkins : Beddgelert 371-2, 378); llythyrau oddi wrth yr un (John Roberts) at ei wyr a'i fab yw (v) a (vi).

Related Material

Bangor 2532-3541