Bardd gwlad o'r iawn ryw oedd J.J., ffrwyth uniongyrchol yr hen gyfarfodydd llenyddol. Os nad oedd yn nosbarth blaenaf beirdd ei gyfnod, yr oedd yn uchel iawn yn yr ail; brithir tudalennau'r Cymru a'r Geninen â'i awdlau a'i englynion. Yr oedd gofalon ffermwr pur fawr arno, fel y tystia ei ddyddiaduron (3233-3255). Yr oedd hefyd yn Annibynnwr selog, bywiog gyda'r Ysgol Sul, ac yn hoff o gadw cofnodion am ei chychwyn a'i gyrfa ym Mawddwy. Prin y gellir dywedyd iddo ef a'i deulu gael cyfiawnder ar ran awduron Hanes yr Eglwysi (1,425-430), na chan Thomas Davies (Tecwyn) yn ei waith ar Dinas Mawddwy (1893), td. 92-97. Prawf adroddiadau Ebeneser y Dinas sydd yn y Llyfrgell hon wr mor dda a defnyddiol ydoedd J.J. yn y cylch crefyddol. Ef a etholwyd yn Gynghorwr Sir (y Cyntaf) dros Fawddwy yn 1889; a chredaf yn sicr ei fod yn Ynad Heddwch yn ei flynyddoedd olaf.
Llawysgrifau J.J., Ty'nybraich, Dinas Mawddwy
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/3231-3243
- Dates of Creation
- 1838-1907
Administrative / Biographical History
Other Finding Aids
Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssjj