Ysgrifennwyd yn y blynyddoedd 1767-1769. Y mae yn hwn lawer o garolau plygain, mae'n wir, tua'r diwedd, ond cynnwys amrywiaeth mawr : cerddi gofuned (am bar o esgidiau (279-284), am gwpwl o "gynion turnio" (273-277) ); "prixiwn" neu ddau (198-201); darn bychan o "Enter Liwt", (64) gyda Syr Merryman a'r prolac (prologue); cerddi marwnad, e.e., td. 306-314; pennillion o fawl, e.e., i William Griffith o Dan-y-bwlch (305), i Jane Garnons o'r Rhiw Gach (322), ac i William Wynn(e) o'r Wern (155-162), gyda'i mynych gyfeiriadau at foneddigion eraill y fro. Nid mor argyhoeddiadol yw ei folawd (250, 261) i'r Parch. Lloyd Foxwist, ficer Llanwnda, gwr dioglyd diofal a elwir ganddo
Pen bugail arail eiraid
Amryw gyffyrddiadau am fywyd pob dydd, fel y cario coed o Gaernarfon i Ddrws-y-coed yn Nhachwedd 1767 (212), codi'r "crushing mill" ym Mryn-y-felin (232-234), a'r llong newydd a adeiladwyd ar draeth Pwllheli (49-52). Diddorol dros ben yw y tair cerdd yn erbyn y Methodistiaid (225-231; 239-245;315-320). Weithiau, rhydd Dafydd Sion wybodaeth am bobl fawr na cheir mohono yn y tablau achau; claddu Anne Fychan o Gors-y-gedol, unig ferch ac etifeddes W.Fychan a gweddw Gwyn o Daliaris, ar 8 Medi, 1767 (td. 246, 330).