Rhyw fath o nodiadau ar blwyfi, eglwysydd, a phersonau yw 3000-3005, tebyg i'r rhai a ysgrifennai i'r Haul, Cymro Dinbych, a'r Cyfaill Eglwysig, lawer ohonynt yn ddyfyniadau o gyfnodolion Cymraeg. Amryw inscriptions diddorol wedi eu codi mewn mynwentydd ac o barwydydd eglwysi - gyda'r orau yw honno a geir yn 3003 o Lanfair M.E., sef cofnod am ewythr i Oronwy Owain, Owain ab Owain, "swyddog y Glo yn y Traeth Coch"; "bu farw Mai 9, 1793, ei oed 88". Nid oes air am yr ewythr hwn yng nghart achau Goronwy gan Mr. J.E.Griffith (Td.193) - tybed a yw Dafydd Griffith yn gywir amdano?
Llythyrau (rai ohonynt yn fwy tebyg i ysgrifau) oddi wrth ei gyfaill Owen Williamson o Ddwyran yw 3006, gryn 16 ohonynt . Llawer iawn am helyntion cystadlu, a mwy ar destun a wyddai oedd wrth ei fodd Dafydd Griffith, sef snobyddiaeth rhai gwyr Eglwysig, a'r modd y cedwid y lleygwyr rhag dwyn eu cyfiawn bwysau ym mywyd Eglwys Loegr yng Nghymru. A dywaid beth wmbredd ar fater yr ymddiddorai lawer ynddo, sef ffurfiiad arhosol pobl Môn drwy gyfathrach y Gwyddyl a'r Brythoniaid - sylfaen y chwedl Ceris y Pwll a gyhoeddwyd yng Nghyfres y Fil yn 1908. Ceir ysgrifennu difyr ar Forris Llwyd y Dyrnwr (7), ar deulu Job yn Sir Fôn (10), am deulu Gwyddel yn Niwbwrch ac am y mudi i Wisconsin (12), am Wil Llechan Gron (14), ac am Eisteddfod Aberffraw yn 1849, a'r modd y triniwyd y Bardd Du, ei dad ynddi (11).