1-8. Am y saith llythyr cyntaf, deuant oddi wrth G.W.Whittington o'r Sgety ger Abertawe at y Llyfrgellydd presennol (T.R.) - i gyd yn ymwneud â bywyd Taliesin yng Ngogledd Ceredigion. Hen gymeriadau, hen dai, hen ysgolfeistri, datblygiad ysgol y pentre', llên gwerin &c. Peiriannydd glô a fu G.W.W. am flynyddoedd, yn y wlad hon, heb sôn am Chili ac Yspaen. Enghraifft ardderchog o Gymro diwylliedig - ef yw un o'r darllenwyr mwyaf cyson ar gyfer y geiriadur mawr Cymraeg sydd ar y gweill. Ysgrifennydd llythyr 8 oedd David Arthur o'r Wyddgrug - un o brif gyfeillion Daniel Owen - gwr yn cofio pethau ymhellach yn ôl na Whittington, ac yn eu dweud yn fedrus a diddorol dros ben. Prudd yw gorfod adrodd i Mr. Arthur ymadael â'r fuchedd hon yn bur fuan wedi ysgrifennu'r llythyr.
9-12. Pobl yn ymdrafferthu ynghylch achau. Americaniaid yn aml yw y rhai hyn, gyda'r syniadau rhyfeddaf am eu hynafiaid - yr ias am gael gafael ar wreiddiau eu teulu wedi deffro'n rhy ddiweddar, a'r iaith Gymraeg wedi eu cholli ganddynt. Sylwer ar y gred ynghylch Madoc ap Owen Gwynedd (12).
13-33. Llythyrau Bob Owen yn ystod y flwyddyn 1940. Llawn o'r rhyfel, gwrando ar y diwifr, siarad a thaeru ar y buses ac ar y croesffyrdd. Disgrifiad da o ddiwylliant Cwmtirmynach lle y bu'n cynnal dosbarth W.E.A. (13); invective hir, gyda llawer iawn o wirionedd ynddo, yn wyneb rhuthr y Germans yng ngogledd Ffrainc (16 Mai 22); myned yn ol at hanes teuluoedd Dol-y-moch a Thaltreuddyn, a dweud am ferch ieuanc o Esthonia wedi cyrhaedd Croesor (17 Mai 25); rhoddi amlinelliad o'i yrfa ei hun fel sail i ysgrif arno yn y Drysorfa Fach (18). Myned yn ddwfn i'r felan yn 19, a sôn am ryw fifth columnist wedi cerfio'r swastika ar ochr daear y Moelwyn Mawr yn 20, cofio am drafferthion y Cybgir Gwlad yn 21, ymuno â'r Home Guard yn 23, ffraeo efo rhai o bobl fawr Cyngor Sir Meirion yn 24. Yn y felan eto (28 a 29); ond yn deffro'n sydyn wrth glywed am ddyfod Piser Sioned (MS. 3212) i Goleg Bangor, a hefyd lyfr newydd o Gerddi Dafydd Sion Siams (30,32); yntau yn talu'r pwyth drwy lwybreiddio i'r Llyfrgell gryn 300 o lawysgrifau ychwanegol o hen offis Cynhaiarn ym Mhorthmadog (33).
34-42. Llythyrau oddi wrth MR. W.R.Jones, Amlwch, un o brif garedigion y Llyfrgell hon. Sgwrsiwr difyr, darllennwr eang, tipyn o asbri'r dychanwr ynddo. Amryw o'r llythyrau o ysbytai Lerpwl. Llawer iawn am droeon trwstan rhai o bobl Amlwch.
43-66 Llythyrau yn dal perthynas â gwyr enwog. Yn 43 ceir copi o lythyrau a anfonwyd yn 1745-7 oddi wrth Thomas Ellis, offeiriad Caergybi, at Madame (Ann) Owen o Blas Penrhos ynghylch ysgol plant yr ardal; oddi wrth Dr. Erie Evans, Brynkynallt, y daeth 44 yn amgau nodion bywgraffyddol ei thad, Dr. Griffith Evans (Bangor 2854; daeth un arall wedi hynny, 3530); nodion am yrfa David Gittins Goodwin yw 45, y D.G.G. y prynwyd deuddeg llyfr baledi ganddo, ychydig cyn ei farw yn Ionawr, 1914; llythyr hir (Ionawr 1 1854) oddi wrth Gweirydd ap Rhys yw 46, gan fwyaf ynghylch llythyraeth y Gymraeg; oddi wrth Cadwaladr Jones, "Hen Olygydd" y Dysgedydd y daeth 48.. am y llythyrau 49-54, dal perthynas y maent â'r Parch. Henry Rees a thad Syr Henry Jones - gohebiaeth a fu (Mehefin 1940) rhwng Miss Lloyd o Lundain â Chofrestrydd presennol y Coleg (MR.E.H.Jones). Syr Henry Jones ei hun a ysg. 55 a 56. Copi yw 57 o lythyr a anfonodd y diweddar Syr John Morris-Jones at gyfaill (Mai 18 1886) yn disgrifio sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen. Llythyr yw 58 oddi wrth Syr John Lloyd yr hanesydd at y Parch. R.G.Owen, Bangor (Ebr. 20 1939) yn egluro cyfeiriadau neilltuol ato mewn llythyrau o gylch 1879-1880, 1891. Barddoniaeth gan y Dr. A.Maude, ffrind da i'r Llyfrgell a pherthynas agos i ail Warden merched y Coleg, yw 59 - barddoniaeth yn disgrifio llyfrau clasuron ei lyfrgell yn Sussex. Llythyr at y Llyfrgellydd yw 60 oddi wrth y diweddar A.Ivor Pryce, cofrestrydd esgobaeth Bangor, yn dweud y cwbl a wyddia am y John Morgan hwnnw o Lanllechid a ysgrifennodd Bangor MS. 421. Am y lleill, ychydig drafferthion yn hen goleg y Normal a geir yn 61 (tua'r flwyddyn 1866); Ezra Pound y modernist a ysgrifennodd 62; a John Cowper Powys y nofelydd 63 a 64. Holiadau ynghylch Edward Stephens a geir yn 66, cyn iddo fyned i Ddwygyfylchi, a chyn iddo erioed gael achos i roddi Tanymarian wrth gwt ei enw.
67-76. Nodion - gan y diweddar Thomas Shankland (67) a'r Dr. E.K.Jones (68-74), am yrfa'r diweddar Ddr. Spinther James o Landudno. Nodyn prudd a ddaw yn 75 a 76, sef methiant cyfeillion y Dr. i sicrhau dogn o fund y Civil List iddo.
77-84. Gwybodaeth am lyfrau a newyddiaduron. Rhestr pur gyflawn a geir yn 78-80 o lyfrau'r Eglwys Gatholig (Rhufain) a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg, ac yn 81 o wahanol arg. gweithiau Robert Record(e) y rhifyddwr. Llythyrau oddi wrth bennaeth argraffdy'r Faner yn Ninbych yw 83 ac 84 , yn cynnwys sylwadau tra gwerthfawr ar yr erthyglau - Dinbych a'r Wasg Gymraeg - a ymddangosodd yn Trans. Cymrodorion Society 1939.
85-88. Llythyrau at John Roberts, Garnedd Wen, Llanfair P.G. (1809-1814), tad gwraig y Parch. Richard Lloyd, Biwmares. Dau ohonynt (86,88) oddi wrth ei fab Griffith, un o Flushing ac un o Ddublin, y cyntaf yn sôn llawer am yr ymladd yn Fflandrys yn 1809, a'r llall yn dweud mor agos y bu i'w long fynd i'r gwaelod. Efallai mai 85 yw'r mwyaf diddorol (serch nad oes dyddiad wrtho) - John Roberts ei hun yn rhoddi cyfrif o'r colledion dirfawr a gafodd - llongau yn syrthio i ddwylaw'r Ffrancod (y privateers), a cholli llongau eraill drwy gastiau drwg dynion pechadurus o'r wlad hon.
89-97. Mân bapurau rhyddion a gafwyd tu mewn i'r gyfrol at The Art of Farriery (Wrexham 1795), a ysgrifennwyd gan William Griffith,"groom of Wynnstay". Recipes a chyffuriau at wella afiechydon anifeiliaid. Y mae'n bur amlwg, oddi wrth y cyfeiriadau ar gefn 90 a 95, i'r llyfr hwn fod unwaith ym meddiant teulu Pennantiaid Downing yn sir Fflint, ond anodd iawn yw dweud pa un ai David Pennant y tad neu y mab o'r un enw oedd piau'r gyfrol.