Dyddiaduron, anerchiadau, a gwahanol bapurau gan y diweddar Edward Roberts [Jolly Fox] o Frynhyfryd, Dolwyddelan.

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/2620-2631
  • Dates of Creation
    • 1894-1926

Scope and Content

Yn ddiddadl, cymeriad diddorol aml-ochrog oedd Roberts: llawn afiaith Gymreig, llenor diwylliedig, ysbryd beiddgar anturuaethus, a dinesydd byw, effro. Yr oedd yn falch iawn o fro Dolwyddelan; mawrygai hanes y gwyr a ddioddefodd ar ol etholiad 1868; gwyddai hanes y brodorion o febyd i bedd; a phrawf eu bod hwythau yn ei edmygu yntau oedd eu gwaith yn ei anfon i'w cynrychioli ar gynhadleddau Rhyddfrydol, a'i ethol yn ddi-wrthwynebiad i'r Cyngor Sir yn 1913. Croesodd for Iwerydd droeon, ac y mae'n bur amlwg iddo lwyddo'n bur dda yn ei anturiaethau yn yr America.

Edward Cadwallon Roberts ('Jolly Fox'), 'Bryn Hyfryd.'

Bu farw Ragfyr 24ain 1926 yn 71 mlwydd oed ac a gladdwyd ym mynwent Bryn y Bedd, Dolwyddelan.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssjf