Un o Gymry mwyaf diddorol ei ddydd: pregethwr, bardd, dychanwr, dadleuwr, gwr mewn dyfroedd poethion drwy gydol ei oes. Bu mewn dau goleg yng Nghymru; cafodd radd Ph.D. yn yr Almaen, peth dieithr iawn i Gymro yn y sixties; bu yn casglu at [hên] Goleg Annibynnwyr y Bala yn yr U.S.A.; bu ar daith yng ngwlad Canaan; bu'n tramwyo Cymru gyda van y Land Nationalisation League. Ef oedd cefnogydd mwyaf eiddgar y Prifathro M.D. Jones yn nadl y "Cyfansoddiadau." Ef oedd awdur Cofiant y Tri Brawd, Cofiant M.D. Jones, ei Oes Gofion ei hun, Gargantua, Y Dydd Hwn, etc.
Bu'n cyfreithio, bob amser fel diffynydd, â C.R. Jones, Llanfyllin; Arglwydd Penrhyn; ac Evan Jones, Caernarfon. Heblaw yr Oes Gofion, cyfleir hanes byr ond cynhwysfawr ganddo ef ei hun yn Album Coleg Caerfyrddin, 103-104.