Gan Mr. R.D. Roberts, y llyfrbryf cywrain o'r un lle, y cyflewyd yr ysgrifau wrth ei gilydd, gydag ambell ddarlun tarawiadol i dorri ar foelni'r tudalennau. Nid oes ond canmol i fod ar ddycnwch a dyfalbara, offeiriad Glanogwen ynglyn â'r ysgrifau hyn, ac ar y gwaith mwy pwysig sydd ganddo ar y gweill ar glerigwyr esgobaeth Bangor o'r oesoedd boreuaf. Dyma restr o'r Hyntiau (gair lluosog R.D.R. am Hynt yw hwn) :-
(i.) Syr. Thomas ap William [Thomas Williams neu Wiliems o Drefriw]. - td. 3-18.
(ii.) Dr. John Davies o Fallwyd. - td. 19-29.
(iii.) Dr. Griffith Williams, Esgob Ossory. - td. 31-43.
(iv.) John Gwynedd. - td. 45-57.
(v.) Goronwy Owen. - td. 59-69.
(vi.) Ieuan Brydydd Hir. - td. 71-83.
(vii.) David Rowland, Cenhadwr. - td. 87-98.
Nid hawdd iawn yw beirniadau gwaith mor drylwyr. Serch hynny, wrth ymdrin â gwaith y doethor o Fallwyd, nid ymddengys ei fod yn gwybod fawr am ei wraig, ac amheus braidd ydyw am ei hail-briodas ag Edward Wynne o Fodewryd (td. 23), dilynydd J.D. ym Mallwyd; nid oes unrhyw ansicrwydd i fod - gwel J.E. Griffith: Pedigrees, 118, a chatalog llawysgrifau Penrhos yn y llyfrgell hon. Eto, methodd Mr. Hughes, fel pawb arrall o'i flaen, a chael allan pwy yn hollol orff pobl Dr. Griffith Williams yn Llanrug (td.31), ac y mae'n amlwg na welodd ffrwyth ymchwiliadau y diweddar Brifathro J.H. Dvaies ar wir gyswllt Goronwy Owen â Rhydychen (61). Efallai mai'r hynt fwyaf diddorol o'r cwbl yw'r olaf, ar ôl hanes David Rowland yr offeiriad, cenhadwr i Newfoundland, ac un o brif drefnwyr Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819.