Papurau yn dal cyswllt â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan gynnwys mapiau

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/2412-2414
  • Dates of Creation
    • 1878-1885

Scope and Content

BMSS/ 2412 - "Llaw-lyfr i Ddaeareg" - anfonwyd hwn gan E.J. Williams i Eisteddfod Birkenhead (1878).

BMSS/2413 yw'r pwysicaf, sef "Plan of the Chubut Colony, 1885," o waith E.J. Williams. Gwaith manwl, manwl, gydag enwau pob daliwr tir yn y Wladfa, a diddorol yw sylwi fod amryw o enwau Sbaenaidd yn eu plith hyd yn oed y pryd hwnnw.

BMSS/2414 Anodd, onid amhosibl, yw dywedyd yn gywir beth yw'r map BMSS/2414, dim ond mai rhan o orllewin y Weriniaeth Arienin a ddanghosir ynddo, a chamrau taith ôl a blaen ar hyd drumiau mynyddoedd ac ochrau llynnoedd. Gwnaed y daith o ddiwedd Ionawr i ddechrau Mawrth, ond ni ddywedir gair am y teithwyr, nac am eu pwrpas, ac nid oes grybwyll dyddiad ychwaith.

Acquisition Information

Cafwyd gan Dr. Mostyn Williams, Bethesda, mab y Bonwr E.J. Williams a fu farw yn 1932 (gwêl MSS. 1130-1133A).

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssejw