Dyddiadur R.S. Williams o Fangor

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/2426
  • Dates of Creation
    • 22 Ebrill 1892 - 21 Medi 1894

Scope and Content

Ceir hanes ei daith adref o Awstralia yn 1892 gyda'i wraig a Willie yn yr ugain tudalen cyntaf o'r dyddiadur hwn.

Administrative / Biographical History

Un o'r dynion mwyaf diddorol yn y Dre'. Brodor o Lanrug ydoedd; bu am beth amser yn ysgol y Friars, ac yr oedd yno tua'r un amser â Mr. Pentir Williams, clerk tref Bangor a chrwner Gogledd Sir Gaernarfon; am flynyddau wedi hynny, Eglwyswr selog ydoedd, a Cheidwadwr rhonc mewn politics (ceir prawf sicr o hynny yn y llythyrau a'r caneuon ar y dechrau (inset), serch iddo ymhell cyn diwedd ei oes ddod yn aelod o eglwys Annibynnol Ebeneser, heb son am ei ran yn y Bangor Brotherhood a gyfarfyddai ar nos Wener yng nghapel Kyffin Square. Prin y ceid enghraifft well o ŵr wedi mynu diwyllio ei hun drwy ddarllen ac ysgrifennu : mynnodd gyfieithu i'r Gymraeg ymron y cwbl o gyfieithiad James Moffat o'r Testament Newydd ac ymddangosodd llawer o'r gwaith yn y "Cyfarwyddwr"; ac ennillodd wobr £20 yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun (1936) am fynegai i'r "Genhinen".

Ar wahân i yrfa ei ddyddiau hamdden, yr oedd ei hanes cyn hynny yn degyb iawn i ramant. Yn 1886 mudodd i Awstralia gan ddychwelyd yn 1892 i Lanrug, cyn teithio eto yn yr un flwyddin ar y llong "Germanic" i Efrog Newydd [New York]. Amser go wael gafodd yn yr Amerig yn chwilio am waith o le i le - Boston, Brooklyn. Cafodd y swyddi mwyaf amrywiol a fu erioed : llanw tiniau tomatos, toi tai, dreifio trams, gweithio yn un o geginau Ffair y Byd yn Chicago a gorffen gyda bod yn giedwad nos y Banqueting Hall yn Jackson Park.

Cyrhaeddodd Lerpwl ar 14 Tachwedd 1893 ac yna chwilio am waith eto yng Nghymru a Lerpwl. Bu'r dreifio trams yn Lerpwl ac yn gwasanaethu'r London and North Western Railway.

Priododd R.S. Williams deirgwaith, y tro cyntaf â Minnie yn Spottiswoode, Victoria, Awstrali yn 1891. Claddwyd ei ail wraig yn Antwerp a chyn priodi'r drydedd aeth R.S. Williams am dro o Southampton i Sydney ac oddi yn o i San Francisco ac oddi yno i Ganada a thros y môr i Lerpwl i gyrraedd Bangor mewn pryd cyfaddas i eistedd yn daclus mewn sedd gadw ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol, Awst 1931.Bu farw yn 1937.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssrsw